Lansio ymgyrch ddiogelwch ar draphont Pontcysyllte

  • Cyhoeddwyd
traphont PontcysyllteFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Glandŵr Cymru wedi lansio ymgyrch diogelwch er mwyn rhwystro unigolion rhag croesi Traphont Pontcysyllte, yr uchaf yn y DU.

Mae'r ymddiriedolaeth wedi cyflwyno cynllun PontySafety er mwyn diogelu dwsinau o bobl sydd yn peryglu eu hunain ac eraill drwy rwyfo neu feicio ar hyd y draphont.

Dywedodd Glandŵr Cymru, sy'n gyfrifol am 2,000 milltir o gamlesi yng Nghymru a Lloegr, eu bod nhw eisiau pobl i "rannu'r safle" yn gyfrifol, ac i beidio peryglu eu hunain yn ddiangen.

Fe wnaeth dyn 18 oed farw ar ôl disgyn o'r draphont yn 2016.

Yn ôl Lynda Slater, sy'n rheolwr ar ganolfan twristiaeth ar ran yr ymddiriedolaeth, mae camlas Llangollen a thraphont Pontcysyllte yn "llefydd arbennig i'w hymweld â nhw ac i fwynhau'r awyr agored".

"Yn anffodus, mae rhai pobl yn gweld yr 'afon yn yr awyr', 126 troedfedd uwchben Dyffryn Ardudwy, fel math o her chwaraeon," meddai.

Peryg 'aruthrol'

Wedi ei hadeiladu gan Thomas Telford a William Jessop mwy na 200 mlynedd yn ôl, mae'r draphont yn ganolbwynt i Safle Treftadaeth y Byd ar hyd camlas Llangollen.

Yn ôl Glandŵr Cymru mae hi'n ddiogel i rwyfo ar hyd traphont y Waun, ond dylid llusgo'r byrddau rhwyfo ar hyd Pontcysyllte ar sail diogelwch.

Dywedodd Ani Sutton, sydd hefyd yn gweithio i'r ymddiriedolaeth: "Fel un sydd yn rhwyfo fy hun, rydw i'n gwybod pa mor hawdd yw hi i gael eich chwythu drosodd.

"Mae unrhyw un sy'n sefyll ar fwrdd rhwyfo ar hyd y draphont, heb reiliau diogelwch, mewn peryg aruthrol."