'Fydd o'n dal yn edrych fel Eisteddfod draddodiadol'
- Cyhoeddwyd
Mae trefnydd a phennaeth artistig yr Eisteddfod Genedlaethol yn dweud bod nifer o ystyriaethau gwahanol eleni yn sgil cynnal gŵyl mewn lleoliad mor anghonfensiynol â Bae Caerdydd.
Y nod, medd Elen Elis, oedd "codi Steddfod o gae a'i rhoid o lawr yn y bae" ac fe fydd yn "dal yn edrych fel Eisteddfod draddodiadol, ond gyda twist".
Fe fydd Syr Bryn Terfel yn agor yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd heno gyda chyngerdd yn dathlu'r canwr a'r ymgyrchydd hawliau sifil Paul Robeson
Yn absenoldeb ffiniau a'r Ganolfan Groeso arferol, bydd ymwelwyr yn gallu crwydro'r Maes a mwynhau rhai o'r gweithgareddau heb orfod talu tâl mynediad.
Ond mae'n rhaid talu £10 am fand garddwrn i fynd i'r Pafiliwn, Theatr y Maes a'r Babell Lên.
Mae arbrawf eleni'n gyfle "arbennig ac unigryw", medd y trefnydd, i ymestyn "croeso i bawb... lle bo ddim ofn gorfod talu i ddod i mewn i rwla [os ydyn nhw] ddim yn siŵr os ydy nhw isio dod yn y lle cynta'.
"Maen nhw'n ca'l dod i mewn, profi dros eu hunain. A gobeithio unwaith maen nhw fewn bo' nhw'n hooked, mewn ffordd, i ddod yn ôl."
Cam i helpu cadw rheolaeth ar niferoedd o fewn Canolfan y Mileniwm yw'r bandiau garddwrn er mwyn gweld gweithgareddau'r Pafiliwn, y Babell Lên, Theatr y Maes a rhai o'r rhagbrofion... ac i sicrhau iechyd a diogelwch.
Dywed Elen Elis eu bod wedi llunio cynlluniau a pholisïau o ran iechyd a diogelwch y cyhoedd y tu hwnt i'r ganolfan hefyd, yn dilyn misoedd o drafodaethau "manwl" gyda Chyngor Dinas Caerdydd a'r heddlu.
Mae 'na hefyd gynlluniau wrth gefn rhag ofn i'r ardal or-lenwi, os fydd yna ymateb arbennig o dda i'r gwahoddiad i bobl ymweld â'r ŵyl am y tro cyntaf heb orfod talu.
"'Da ni'n ymwybodol o unrhyw sefyllfa all ddigwydd," meddai. Mae'r trafodaethau wrth baratoi am yr ŵyl yn cynnwys rhai gyda threfnwyr digwyddiadau torfol eraill yn y Bae, fel gwyliau bwyd.
"Braf fydd gweld pawb yn dod yna. Ein problem ni ydi neud yn siŵr bod ni'n rheoli'r niferoedd. 'Dw i isio annog pobol i ddod."
Mae "ystyriaethau ychwanegol" a "llwyth o bolisïau" eleni hefyd, meddai, i sicrhau diogelwch Eisteddfodwyr ifanc wrth fanteisio ar gyfle "cyffrous" i leoli Maes B yng nghyn adeilad Profiad Dr Who.
"Da ni wedi bod yn trafod diogelwch hwnnw hefyd, a neud siwr bod hwnna'n saff a bod 'na fysus wedyn yn cludo'r rhieny sydd yn mynd i Maes B yn ôl i'r maes pebyll."
Dywedodd bod pyllau dŵr wrth safle Maes B yn Llanelli yn 2014, ac mae'r trafodaethau diogelwch blynyddol yn ymateb i heriau unigol y lleoliad dan sylw.
Mae Elen Elis yn canmol dyheadau'r pwyllgorau lleol i gynnig arlwy gwahanol a phobol "agored eu meddwl" i arbrofi.
"Os 'di o'n gweithio, grêt. Allwn ni gydio yno fo a'i ddatblygu flwyddyn nesa'. Os 'di o'm cweit yn gweithio, nawn ni sbïo arno fo eto a meddwl pam falle bod o ddim yn rhywbeth sy'n mynd i fod yn llwyddiannus i'r Steddfod.
"Falle bo' ni jyst angen datblygu fo a edrych arno fo ychydig bach yn wahanol."
O dderbynfa yng Nghanolfan y Mileniwm y mae modd prynu'r bandiau garddwrn a thocynnau cyngherddau nos, os nad ydy Eisteddfodwyr wedi eu prynu o flaen llaw.
Bydd mapiau, ap Reality Estynedig (Augmented Reality) a'r "tyrrau mawr gwybodaeth ymhob man" yn rhoi Eisteddfodwyr ar ben ffordd.
Ond sut bydd y trefnwyr yn gwybod faint o bobl sy'n ymweld â'r Maes bob dydd?
"Mae'n siwr byddach chi'm yn cael y ffigyrau'n benodol ginnon ni! 'Da ni wrth gwrs yn mynd i gadw trac... oherwydd 'da ni isio neud yn siwr bod petha'n llifo'n iawn. Ma' ginnon ni dîm diogelwch penodol yn cadw trac ar y niferoedd."