Lleoliadau Maes Eisteddfod Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Y Ganolfan

Er na fydd yna faes traddodiadol eleni, bydd elfennau cyfarwydd yn dal i fodoli yn Eisteddfod arbrofol a threfol 2018.

Dyma wybodaeth am leoliadau rhai o fannau mwyaf poblogaidd y Maes.

Y Pafiliwn

Bydd y Pafiliwn, nifer o'r perfformiadau theatrig a'r Babell Lên wedi'u lleoli yng Nghanolfan y Mileniwm.

Ac er na fydd rhaid talu i fynd i mewn i'r maes, fe fydd rhaid talu i fynd i ddigwyddiadau yn lloriau uwch Canolfan y Mileniwm. Pris y tocynnau fydd £10 ar y diwrnod neu £8 os yn prynu ymlaen llaw.

Roald Dahl Plass

Bydd y Llwyfan, y Pentref Bwyd a'r bariau mawr i gyd wedi'u lleoli'n hynod gyfleus yn y Roald Dahl Plass y tu allan i fynedfa Canolfan Mileniwm Cymru, a dyma le fydd lleoliad Cerrig yr Orsedd ar gyfer y seremonïau ar fore Llun a Gwener hefyd, gyda'r Cerrig yn cael eu symud yn ystod yr wythnos.

Disgrifiad o’r llun,

Map newydd y Maes ym Mae Caerdydd. Mae'r Eisteddfod am bwysleisio taw map darluniadol yn unig yw hwn, ac efallai y bydd ambell beth yn symud cyn yr Eisteddfod

Y Senedd

Adeilad y Pierhead fydd cartref Shwmae Caerdydd a Dysgu Cymraeg - Learn Welsh, a lleolir Y Lle Celf eleni yn y Senedd. Bydd tair ystafell hefyd wedi'u neilltuo ar gyfer y Cymdeithasau yn adeilad y Senedd.

Canolfan Ddawns

Tŷ Portland ar Stryd Biwt fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr adeilad Dawns eleni.

Maes B

Bydd cyngherddau Maes B yn cael eu cynnal yn hen adeilad 'Profiad Dr Who' yn y Bae.

Efallai o ddiddordeb: