Rhaglen LGBT i ddangos 'nad yw'r Eisteddfod yn gul'
- Cyhoeddwyd
Fe ddaw diwrnod pan na fydd angen brandio neilltuol i hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r profiad LGBT drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dyna yw gobaith cydlynydd cynllun Mas ar y Maes - partneriaeth rhwng y gymuned lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol (LGBT), elusen Stonewall Cymru a'r Eisteddfod Genedlaethol.
Cynyddu gwelededd a phresenoldeb materion LGBT yw nod y rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau gydol yr Eisteddfod, mewn gwahanol leoliadau ar draws y maes.
Dywedodd y cydlynydd, Iestyn Wyn - rheolwr ymgyrchoedd, polisi ac ymchwil Stonewall Cymru - bod rhoi lle mor amlwg i faterion LGBT mewn gŵyl mor bwysig yng Nghymru "yn hynod symbolaidd, ond yn fwy arwyddocaol... [yn] herio'r ystrydeb sy' gan bobl... bod yr Eisteddfod yn 'gul, bod o'n draddodiadol ac yn rhy glwm i'w gwreiddiau".
"Wrth weithio 'efo'r gymuned o fewn yr Eisteddfod, mae'r awydd yno i fod yn gynhwysol.
"Mae'n gam mawr ymlaen o fewn cymdeithas, wrth fod yn falch o'n hunaniaeth ni, er mwyn symud ymlaen o ran ein hawliau."
"Pan ydan ni'n edrych yn ôl 30 mlynedd i eleni, o'dd o'n erbyn y gyfraith i sôn am faterion LGBT o fewn ysgolion.
"O'dd o'n sefyllfa o fod 'mae'n iawn i chi fod yn hoyw, ond peidiwch â siarad am y peth'.
"30 mlynedd yn ddiweddarach, ma' ginnon ni ŵyl o fewn gŵyl sydd yn dathlu, ond hefyd yn atgoffa pobl - ia, 'da ni wedi dod yn ein blaena' o ran y ffordd ma' pobl LGBT yn cael eu trin gan gymdeithas, ond ma' ginnon ni dal ffordd i fynd'."
Mae'n cyfeirio at adroddiad diweddar yn awgrymu nad yw llawer o bobl LGBT yn teimlo'n ddigon cyfforddus i ddal dwylo yn gyhoeddus.
"Ma' hwnnw yn brawf ynddo'i hun falle bod ein hawliau ni yn ddu a gwyn ar bapur yn gry', ond dydi agweddau cymdeithas ddim cweit mor bell yn eu blaena' a dylsen nhw fod."
Sgyrsiau ac adloniant
Mae'r cynllun, meddai, yn mynd i'r afael â "bwlch" rhwng y sylw i faterion LGBT trwy'r Gymraeg o'i gymharu â'r Saesneg.
"Sa fo 'di neud gwahaniaeth mawr i fi yn tyfu fyny o fewn y gymuned Gymraeg i weld pobl go iawn LGBT Cymraeg, sy'n siarad fy iaith i, a gallu uniaethu 'efo nhw.
"Os 'da ni'n gallu helpu - bod unrhyw unigolyn ar faes yr Eisteddfod 'di teimlo'n fwy gynhwysol, neu'n bod nhw'n gallu dal llaw eu partner... mae hynny ynddo'i hun yn rhywbeth 'sa ni'n falch ohono."
Mae digwyddiadau diwrnod llawn cyntaf yr ŵyl yn cynnwys perfformiad gan rai o gorau LGBT Caerdydd a chyfle cyntaf i weld Nos Sadwrn o Hyd - cyfieithiad Cymraeg gan Roger Williams o'i ddrama Saturday Night Forever.
Adlewyrchu'r amrywiaeth o fewn y gymuned LGBT yw nod rhaglen amrywiol "o sgyrsiau dwys a difyr i betha' sy'n adloniant pur", a'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio yn rhaglen yr Eisteddfod fel twmpath LGBT "cyntaf Caerdydd, Cymru a'r byd".
"O bosib!" medd Iestyn Wyn. "Mae o'n hwyl ond elli di ddawnsio 'efo pwy bynnag wt ti isio."
Mas... yn Llanrwst?
Un pwnc trafod yw'r gwahaniaeth mewn agweddau mewn ardaloedd dinesig a gwledig, a beth sydd angen newid ar draws Cymru.
"Ma' pobl yn gofyn 'sginnoch chi ystadega' pa mor anodd ydi o i fyw fel person LGBT yng nghefn gwlad?'.
"Gwirionedd ydi, ma' cefndir, hanesion a phrofiada' pawb yn wahanol.
"I fi, fel person o gefn gwlad, mae o hyd yn oed yn fwy pwysig bod hyn yn cario 'mlaen i lefydd fel Llanrwst y flwyddyn nesa' a thu hwnt. Mae'n bwysig bod ni'n cael pobl yn weledol drwy Gymru gyfan, nid jyst yn unig yng Nghaerdydd."
Ychwanegodd fod trafodaethau'n parhau ynghylch datblygu'r bartneriaeth gyda'r Eisteddfod: "Y gobaith ydi rhyw ddydd bydd dim angen branding Mas ar y Maes.
"Bydd o jyst yn rhan naturiol o gymdeithas."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mai 2018
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2018