Eisteddfod Bae Caerdydd yn 'well i bobl anabl'
- Cyhoeddwyd
Mae 'na obeithion y bydd hi'n haws i bobl anabl gael mynediad i faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd eleni.
Yn ôl Anabledd Cymru mae llawer o bobl anabl wedi rhoi'r gorau i fynychu'r Eisteddfod yn y gorffennol oherwydd profiadau gwael.
Dywedodd yr elusen wrth raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru eu bod yn derbyn cwynion yn rheolaidd oddi wrth eu haelodau yn ymwneud â materion mynediad yn yr Eisteddfod.
Ychwanegon nhw eu bod yn croesawu'r Brifwyl ym Mae Caerdydd eleni am y bydd y lleoliad "yn gwneud yr ŵyl yn fwy hygyrch ac yn caniatáu mwy o bobl anabl i fynychu".
Dywedodd yr Eisteddfod eu bod yn "wynebu heriau o ran hygyrchedd yn flynyddol" a'u bod yn "datblygu'r hyn a gynigir yn barhaus".
'Calonogol'
Yn ôl yr elusen maen nhw wedi bod ynghlwm â grŵp llywio'r ŵyl yn y gorffennol er mwyn helpu'r digwyddiad i fod yn fwy hygyrch i bobl anabl yn nhermau mynediad a sicrhau bod cefnogaeth cyfathrebu ar gael.
Serch hynny, maen nhw'n dweud oherwydd bod gwyliau'n aml yn cael eu cynnal mewn lleoliadau gwledig ei bod hi'n anodd i rai pobl anabl lywio'u ffordd dros arwynebau dros dro, a bod "nifer o bobl anabl wedi rhoi'r gorau i fynychu'r Eisteddfod oherwydd profiadau gwael yn y gorffennol".
Dywedodd Catrin Atkins o Gaerdydd wrth y Post Cyntaf y bydd hi'n mynd i'r Eisteddfod eleni am ei bod hi'n meddwl y bydd yn brofiad gwell i rywun fel hi sy'n defnyddio ffyn i gerdded.
"Mae'r ffaith y bydd yn cynnig mannau ychydig mwy cadarn a mwy o fynediad yn galonogol," meddai.
"O brofiad o fynychu eisteddfodau yn y gorffennol mae'n gallu bod yn anoddach i bobl mewn cadair olwyn neu ar ffyn.
"Mae 'na lwybr yn aml yng nghanol y maes ac mae hwnna yn gallu mynd yn eithaf mwdlyd a llithrig yn y glaw ac yn dda i ddim.
"A gallwch anghofio mynd i Faes B gan ei bod hi'n brofiad anodd cerdded drwy'r mwd, gyda thipyn o waith cerdded i'w wneud er mwyn cyrraedd y maes".
Mae Tina Marie Evans o Dre-fach, Sir Gâr, yn un o'r rhai sydd wedi rhoi'r gorau i fynychu'r Brifwyl yn y gorffennol oherwydd ei bod yn cael cymaint o drafferth yn ei chadair olwyn.
"O'm mhrofiad i mae lot o chippings ar y ddaear, sydd efallai'n syniad da i'r trefnwyr achos mae'n cynnig arwyneb caled, ond os mae'r glaw yn dod, does dim gobaith mynd drostyn nhw yn fy nghadair olwyn," meddai.
"Pan dwi wedi mynd i'r Steddfod mae'n rhaid teithio ar yr olwynion cefn ac felly mae'n rhaid cael rhywun gyda fi.
"Mae'r Steddfod yn cynnig dau docyn am bris un i bobl anabl gael gofalwr neu ffrind gyda nhw ond dyw hyn ddim yn datrys y broblem.
"Mae'n cymryd yr hwyl mas o'r Steddfod i bobl anabl."
Mae Ms Evans, sydd hefyd yn llefarydd ar ran Anabledd Cymru, o'r farn nad yw'r Eisteddfod yn gwneud digon i helpu pobl anabl.
"Does llawer o ddim wedi newid dros y blynyddoedd, a dwi'n wynebu'r un rhwystrau bob tro," meddai.
"Efallai y bydd cynnal y Steddfod ym Mae Caerdydd yn dangos y newid sydd ei angen."
Dywedodd Anabledd Cymru eu bod yn croesawu'r Eisteddfod ym Mae Caerdydd eleni am y bydd yn "gwneud yr ŵyl yn haws i fwy o bobl anabl i fod yn rhan ohoni".
Ychwanegodd yr elusen y byddai'n hapus i weithio gyda'r Brifwyl yn y dyfodol i sicrhau bod digwyddiadau'r dyfodol yn gynhwysol i bawb sy'n bwriadu mynychu.
'Lle i wella'
Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol: "Yn debyg i bob gŵyl deithiol arall a'r rheiny a gynhelir ar dir amaethyddol neu wyrdd, mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn wynebu heriau o ran hygyrchedd yn flynyddol.
"Rydym yn ymwybodol bod lle i wella bob blwyddyn, ac mae hygyrchedd a gwella'r ddarpariaeth ar gyfer ymwelwyr anabl, bregus a hŷn yn rhan greiddiol o'n gwaith cynllunio a gwerthuso, ac rydym yn datblygu'r hyn a gynigir yn barhaus.
"Bydd adran ar hygyrchedd ar wefan yr Eisteddfod o ddechrau Mai yn ôl yr arfer er mwyn rhannu gwybodaeth a hwyluso trefniadau pawb sy'n dymuno ymweld â'r Eisteddfod."