Galw am eglurder ar wariant gwasanaethau plant Powys

  • Cyhoeddwyd
MerchFfynhonnell y llun, PA

Gall fod angen neilltuo miliynau o bunnoedd yn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau plant ym Mhowys yn dilyn adroddiad damniol, yn ôl panel.

Mae £6.1m eisoes wedi ei neilltuo ar gyfer gwasanaethau plant y sir ar ôl i Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru rybuddio fod risg o niwed i blant.

Mewn adroddiad newydd, mae'r pwyllgor archwilio yn dweud y gallai fod angen £3.2m ychwanegol, ac "adolygiad brys" o wariant ar staff.

Dywedodd y cyngor y byddai "asesiad manwl" cyn penderfynu, ac fe fydd y cabinet yn trafod y mater ddydd Mawrth.

Ym mis Ebrill, cafodd Cyngor Powys wybod y byddai'r sir dal dan oruchwyliaeth fanwl gan weinidogion Llywodraeth Cymru, a hynny er gwaethaf gwelliannau.

Mae adroddiad y pwyllgor yn dweud fod "cynnydd yn parhau i gael ei wneud wrth wella'r gwasanaeth", ond mae hefyd yn mynegi "pryder mawr" am y cyllido.

Fe luniodd y cyngor sir gynllun i wella'r sefyllfa a'i anfon i Arolygiaeth Gofal Cymru, ond dywedodd yr adroddiad fod bellach angen "adolygiad brys" o'r sefyllfa.

Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Cabinet Powys yn trafod cynnwys yr adroddiad ddydd Mawrth

Mae cynllun y sir yn argymell gwario £3.5m ar greu swyddi newydd, ond dywedodd y pwyllgor nad oes eglurhad o bwrpas y swyddi a'u niferoedd, a bod eu swyddogaethau'n aneglur.

Ym mis Mawrth, roedd honiadau nad oedd modd cynnal y gwasanaeth oherwydd y lefel uchel o absenoldeb oherwydd salwch a phobl yn gadael.

Mae'r pwyllgor hefyd yn dweud fod y cabinet wedi cymeradwyo gwariant ychwanegol o £4m ar wasanaethau "ond bod hyn wedi ei wneud heb gynllun busnes oedd wedi ei gostu".

Ychwanegodd yr adroddiad fod gwasanaethau plant ym Mhowys erbyn hyn wedi eu "cyllido'n dda" ond bod angen nawr i ddangos "gwerth am arian".

"Mae pryderon yn parhau am arwyddocâd ariannol o fynd i'r afael â'r materion yma yn yr hir dymor a'r risg sy'n bodoli i gyllideb y cyngor."