Tywyn: Achub tri pherson yn eu harddegau o'r môr
- Cyhoeddwyd
Mae tri pherson yn eu harddegau aeth i drafferthion yn y môr ger Tywyn, Gwynedd ddydd Mawrth bellach wedi eu cludo i'r ysbyty.
Aeth bad achub Aberdyfi i'r digwyddiad am 13:44 brynhawn Mawrth a chwilio ardal rhyw 150-300m o'r arfordir ger Parc Carafanau Neptune Hall.
Cafodd yr heddlu hefyd eu galw i'r digwyddiad ychydig cyn 13:50.
Fe wnaeth gwylwyr y glannau a hofrennydd o Gaernarfon ymateb am 13:54, ac fe wnaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru anfon parafeddyg ac ambiwlans i'r safle mewn ymateb i argyfwng meddygol.
Dim baneri coch
Dywedodd Gwylwyr y Glannau bod y tri pherson aeth i drafferthion yn y dŵr wedi eu cludo i'r ysbyty ac roedd un o'r bechygyn wedi'i ddarganfod gyda'i wyneb yn y dŵr.
Roedd dau ohonyn nhw'n 16 oed ac un yn 17 oed, ac roedden nhw'n rhan o'r un grŵp o ymwelwyr.
Yn ôl gwefan yr RNLI does dim achubwyr bywyd ar ddyletswydd ar draethau na chwaith ar hyd arfordir Gwynedd.
Dywedodd Cyngor Gwynedd fod aelod o'i gwasanaethau morwrol ar ddyletswydd yn Nhywyn ac wedi cysylltu gyda'r gwasanaethau brys pan sylwodd fod y tri mewn trafferthion yn y dŵr.
Ychwanegodd llefarydd: "Fe wnaeth aelod o staff y cyngor fynd fewn i'r môr i gynnig cymorth, a gyda chymorth aelodau o'r cyhoedd, roedd yr aelod o staff yn gallu cynorthwyo dau o'r unigolion i'r lan.
"Mae staff adran forol Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am batrolio 301km o arfordir.
"Mae ein swyddogion yn gweithio'n agos gyda phartneriaid o'r RNLI a'r gwasanaethau brys er mwyn sicrhau fod ein traethau yn ddiogel ar gyfer y miloedd sydd yn ei mwynhau pob blwyddyn."
'Risg y môr'
Dywedodd AS Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts ei bod yn pwyso ar Gyngor Gwynedd i wneud mwy i wella diogelwch ar y traeth.
"Dwi wedi bod yn ceisio cael Cyngor Gwynedd i fynd i drafodaethau gyda sefydliad bad achub yr RNLI, oherwydd maen nhw mewn siroedd eraill cyfagos fel Ceredigion yn cynnig hyfforddiant ar gyfer wardeiniaid a'r cyhoedd fel eu bod nhw'n hyderus i fod yn achubwyr bywyd," meddai ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru.
"Dwi wedi siarad hefo'r heddlu a phobl leol yn Nhywyn wedi'r digwyddiad ddoe, a dwi'n meddwl y bydd 'na alwad yn dod o'r dref am faneri i gael eu hedfan i ddangos lefel risg nofio yn y môr - rhywbeth oedd yn digwydd ers talwm yn ôl be' dwi'n ddallt."
Dywedodd Paul Davies, rheolwr tafarn y Victoria Slipway ger y traeth, ei fod wedi rhedeg allan i weld beth oedd yn digwydd ar ôl clywed "llawer o sgrechian".
"Dwi erioed wedi gweld unrhyw beth fel 'na ar y traeth, roedd o'n ofnadwy," meddai.
"Dwi 'di tyfu fyny yma ac... roedden nhw'n arfer bod efo fflagiau coch [i rybuddio pobl o'r peryglon], ond yn y blynyddoedd diwethaf does dim fflagiau coch wedi bod yn hedfan.
"Roedden ni wastad yn gwybod pan fyddai'r fflagiau coch yn hedfan na ddylai unrhyw un fynd i nofio yn y môr."
Ychwanegodd Mr Davies nad oedd yn credu bod yr arwyddion presennol ger y traeth, yn rhybuddio nad oes achubwyr yno, yn ddigon.