Bryn Jones yn ennill y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod

- Cyhoeddwyd
Bryn Jones sydd wedi ennill y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni.
Cafodd y fedal ei rhoi eleni am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun 'Ffin' neu 'Ffiniau'.
Y beirniaid oedd Aled Lewis Evans, Bethan Mair ac Elin Llwyd Morgan.
Dywedodd Aled Lewis Evans bod y gwaith buddugol yn "gyfrol o lên micro eang ei chynfas, a chelfydd ei chynildeb".
Roedd 16 wedi ymgeisio yn y gystadleuaeth, a dywedodd y beirniaid bod y safon wedi bod yn galonogol.
Roedd y gyfrol yn gyfle i drafod materion cyfoes a phynciau llosg i Bryn Jones
Pwy ydy'r enillydd?
Cafodd Bryn Jones ei fagu yn Llanberis, ac mae'n ymweld yn gyson â'i deulu agosaf sydd yn dal i fyw yno, ond bellach yn byw ym Mangor.
Cafodd ei addysg yn Ysgol Dolbadarn, Llanberis ac yna Ysgol Brynrefail, Llanrug, ble cafodd ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth ei danio gan amryw o athrawon.
Yn 1982 graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor, a chafodd fudd o fynychu darlithoedd ysgrifennu creadigol dan arweiniad y diweddar Athro Gwyn Thomas.

Cuddliwio ydy enw'r gyfrol gan Bryn Jones
Mae wedi treulio'i yrfa ym myd addysg; cychwynnodd fel athro yn Ysgol Gynradd Llanfawr, Caergybi yn 1983, cyn ei benodi yn Ddirprwy Brifathro Ysgol y Gelli, Caernarfon yn 1989.
Yn 1995 cychwynnodd ei swydd fel Darlithydd Addysg yn y Coleg Normal, yn ddiweddarach, Ysgol Addysg Prifysgol Bangor.
Ymysg ei ddiddordebau eraill mae hel achau a gweithgareddau awyr agored, yn cynnwys cerdded mynyddoedd, beicio, a sgïo. Yn ddiweddar mae wedi ailgydio mewn llenydda, ac yn edrych ymlaen at weld Cuddliwio, ei gyfrol gyntaf o ryddiaith, wedi'i chyhoeddi.
Mae'n dilyn llwyddiant un arall o ddisgyblion Ysgol Brynrefail yn y gystadleuaeth, pan enillodd Eurgain Haf, yn wreiddiol o Benisarwaun, y fedal.

Dywedodd y beirniaid y byddai'r gwaith yn "creu cryn argraff, yn ogystal â bod yn destun cryn drafod"
Ffin/Ffiniau oedd y testun eleni, ac roedd y beirniaid yn teimlo bod yr enillydd yn "llenor medrus sy'n ddifyr a byrlymus a llawn afiaith".
Dywedodd Aled Lewis Evans bod "darnau ohonom i gyd yn y gyfrol hon – gyda chynildeb darnau fel 'Ffotosynthesis'".
"Mae enwau lleoedd a hunaniaeth Gymreig yn amlwg fel thema, ac yn nifer o'r darnau ceir llinellau clo bachog sy'n hoelio'r darnau.
"Dyrchefir bywyd bob dydd ein cymdeithas gyfoes yn y gyfrol, ac emosiynau a gweledigaeth pobl gyffredin.
"Credaf y bydd yn apelio at drwch o ddarllenwyr."
Dywedodd bod Bryn Jones, dan ei ffugenw Trilliw Bach, wedi rhoi "taith fuddiol a chofiadwy gan lenor o fri mewn cyfrol ddychanol a dig ar adegau, ond cyfrol hollol gelfydd a gwreiddiol yr un pryd".
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Ychwanegodd Elin Llwyd Morgan bod y gwaith yn "bic-a-mics amheuthun y gellid ei ddarllen yn ei gyfanrwydd neu bicio i mewn ac allan ohono", sy'n cynnwys "hiwmor a beiddgarwch" yn ogystal â "thynerwch a chyffyrddiadau gwirioneddol farddonol hefyd".
"Hyderaf y bydd hon yn gyfrol a fydd yn creu cryn argraff, yn ogystal â bod yn destun cryn drafod."
Dywedodd Bethan Mair nad oes gan yr awdur "ddim ffeuen o ots a yw'n digio nac yn ypsetio wrth dynnu sylw ato'i hunan" a'i gyfrol.
"Efallai na fydd pob darn yn y gyfrol yn apelio at bawb – yn wir, gobeithio y bydd yn gwneud i rai deimlo'n anghysurus iawn – ond mae gan Trilliw Bach weledigaeth o Gymru heddiw y mae'n rhaid ei rhannu.
"Rwyf innau a'm cyd-feirniaid yn gytûn taw hon yw'r gyfrol y bydd pawb yn ei darllen, ei thrafod a'i chloriannu dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.