Mam wnaeth ffoi o Wcráin wedi marw ar ôl cael ei tharo gan gar

Tetiana MartynovaFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Tetiana Martynova wedi bod yn byw yng Nghymru ers Gorffennaf 2022, wedi iddi ffoi gyda'i mab o Wcráin

  • Cyhoeddwyd

Bu farw menyw 40 oed o Wcráin ar ôl cael ei tharo gan gar tra roedd hi'n cerdded adref o'i gwaith ac ar y ffôn gyda ffrind, mae cwest wedi clywed.

Symudodd Tetiana Martynova a'i mab i Abertawe ar ôl ffoi o Wcráin pan ymosododd Rwsia ar y wlad ym mis Chwefror 2022.

Clywodd cwest iddi gael ei tharo gan gar ar Ffordd Castell-nedd, ger Treforys, ar ôl gorffen gwaith ar 31 Ionawr 2024, a'i "thaflu'n bell" tuag at y ffordd gyferbyn.

Roedd ei ffrind yn tybio fod Ms Martynova wedi gollwng ei ffôn ar ôl clywed y gwrthdrawiad tra'r oedd hi ar yr alwad.

Clywodd y cwest yn Abertawe fod gyrrwr y cerbyd, Jamie Hitchings, gweithiwr dur Tata, ar ei ffordd adref ar ôl gweithio shifft o 06:00 i 18:00.

Dywedodd Mr Hitchings nad oedd wedi gweld Ms Martynova, a oedd wedi gwisgo mewn du ac yn croesi mewn "rhan anghyffredin o'r ffordd", tan yn union cyn y gwrthdrawiad.

Dywedodd iddo daro ei frêcs cyn dod allan o'r car i helpu Ms Martynova.

Yna fe rwystrodd Mr Hitchings y ffordd gyda chonau cyfagos wrth geisio cael ymateb gan Ms Martynova.

Cafodd Ms Martynova ei throsglwyddo i Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd, lle bu farw o anaf difrifol i'r ymennydd ar 1 Chwefror.

'Ergyd drom' teulu cyn-AS

Wrth roi tystiolaeth, dywedodd y Cwnstabl Karl Painter, ymchwilydd gwrthdrawiadau fforensig i Heddlu De Cymru, mai dim ond un golau stryd oedd wedi'i oleuo ar adeg y digwyddiad.

Dywedodd fod wyneb y ffordd 50mya yn wlyb gyda "gwelededd cyfyngedig" oherwydd faint o law oedd yn disgyn, tywyllwch y lleoliad, a thopograffeg y ffordd.

Cadarnhaodd Cyngor Abertawe i'r heddlu hefyd fod goleuadau stryd wedi'u diffodd ar y pryd, fel rhan o fesurau lleihau ynni cenedlaethol, a oedd yn cynnwys diffodd goleuadau ar ôl asesiad risg.

Fe wnaeth Heddlu De Cymru ymchwilio i'r amgylchiadau, gan benderfynu peidio â chymryd camau pellach.

Dr Dai Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Dai Lloyd yn flaenorol fod ei marwolaeth yn "ergyd drom" iddo ef a'i wraig

Fe wnaeth Dr Dai Lloyd - cyn-aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru - a'i wraig roi lloches i Tetiana a'i mab Iliah wedi iddyn nhw ffoi o'r rhyfel yn Wcráin.

Dywedodd Dr Lloyd yn flaenorol fod ei marwolaeth yn "ergyd drom" iddyn nhw.

Dywedodd y cwpl mewn datganiad ei bod hi'n "ymwybodol iawn o ddiogelwch ffyrdd ac yn gymwys wrth groesi ffyrdd, gan wybod i ba gyfeiriad i edrych, a bod ganddi olwg berffaith".

Fe wnaethon nhw weld hi am y tro olaf ar 27 Ionawr pan aeth hi â nhw allan am frecwast hwyr ar ôl cael ei siec gyflog gyntaf.

Nododd y crwner cynorthwyol Paul Bennett fod Ms Martynova wedi bod yn gwisgo dillad du mewn ardal groesi "anghyffredin" nad oedd wedi'i goleuo â goleuadau stryd.

Daeth i'r casgliad bod marwolaeth Ms Martynova wedi'i hachosi gan wrthdrawiad ffordd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig