Dawns flodau: Pryder bod rhai wedi'u cynnwys ar draul plant lleol

Llun o ferched yn cymryd rhan mewn dawns flodau.
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ddawns flodau yn rhan ganolog o'r seremoni Orseddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol

  • Cyhoeddwyd

Mae rhai rhieni ac athrawon yn Wrecsam wedi codi pryderon bod plant o du allan i'r ardal wedi cael eu cynnwys yn y ddawns flodau eleni ar draul rhai plant lleol.

Mae'r ddawns flodau yn rhan ganolog o'r seremoni Orseddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn gyfle unigryw i blant lleol gymryd rhan.

Dywedodd un athrawes leol, oedd eisiau aros yn ddienw, ei bod "mor siomedig" gan ychwanegu bod y "plant lleol yma bron wedi eu hepgor".

Yn ôl cofiadur yr Orsedd, Christine James, "mae'r prosiect wedi cynnig cyfle i blant ysgolion pob rhan o Wrecsam gymryd rhan yn y ddawns".

Ychwanegodd bod yr angen wedi codi am "aelodau ychwanegol i ymuno â'r tîm" a bod plant o ysgol ddawns o ardal Penllyn wedi'u dewis er mwyn "hwyluso'r broses".

'Cyfle prin wedi'i golli'

Mae'r BBC ar ddeall mai plant blwyddyn 7 yn unig gafodd eu dewis i gymryd rhan eleni.

Wedi i'r galw godi am aelodau ychwanegol, yn hytrach na chynnwys plant o flynyddoedd eraill yn lleol, estynnwyd y gwahoddiad i blant o rannau eraill o Gymru i lenwi'r bylchau.

Dywedodd athrawes, oedd am aros yn ddienw, bod plant lleol "wedi gweithio'n galed dros gyfnod hir i godi arian".

"Fydd dim Eisteddfod arall yn dod i Wrecsam am flynyddoedd," meddai.

"Efallai mai'r ddadl oedd cadw'r safon, ond mae plant fy ysgol i ac ysgolion lleol eraill yn hollol abl.

"Bwriad y 'Steddfod yw dod â'r gymuned ynghyd – dyma gyfle prin wedi'i golli."

Llun o bamffled Seremonïau'r OrseddFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd cofiadur yr Orsedd bod y prosiect wedi cynnig cyfle i blant ysgolion pob rhan o Wrecsam gymryd rhan

Mae Lleucu Sion, sy'n fam i dri o blant sy'n mynychu ysgol yng nghyffiniau Wrecsam, hefyd yn siomedig.

"Mae'r plant wedi bod wrthi ers dwy flynedd yn trefnu cyngherddau a digwyddiadau i godi arian," meddai.

"Os oedd angen mwy o blant, pam na ofynnwyd i flynyddoedd 5 a 6 hefyd, nid dim ond blwyddyn 7?"

Ychwanegodd fod digwyddiad 'Croeso i Wrecsam!' yn y Babell Lên ddydd Sadwrn "yn cynnwys plant lleol, ac fe ddenodd lawer o deuluoedd di-Gymraeg i'r Maes.

"Byddai'r ddawns flodau wedi gallu gwneud yr un peth."

'Hwyluso'r broses'

Eglurodd cofiadur yr Orsedd, Christine James, pan daeth i'r amlwg bod angen mwy o aelodau, bod rhai o ysgol ddawns sy'n gysylltiedig ag aelod o'r tîm trefnu wedi eu dewis er mwyn "hwyluso'r broses".

"Mae Cari Sioux o Rosllannerchrugog yn aelod allweddol o dîm trefnu'r ddawns flodau ers y cychwyn ddwy flynedd yn ôl," meddai.

"Mae'r prosiect wedi cynnig cyfle i blant ysgolion pob rhan o Wrecsam i gymryd rhan yn y ddawns.

"Yn ystod y broses baratoi, cododd yr angen am aelodau ychwanegol i ymuno â'r tîm.

"Cynigiodd Cari gymorth er mwyn hwyluso'r broses gan ddod ag aelodau o'i hysgol ddawns yn ardal Penllyn i ymuno â'r grwp.

"Drwy wneud hyn, sicrhawyd fod tîm llawn ar gael ar gyfer pob seremoni a chynnal safon y perfformiad."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.