Ymchwiliadau gollwng gwybodaeth 'ddim yn dwyn ffrwyth'
- Cyhoeddwyd
Dim ond un o'r naw ymchwiliad i ollwng gwybodaeth a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru dros y degawd diwethaf sydd wedi dod o hyd i'r ffynhonnell, yn ôl ymateb i gais rhyddid gwybodaeth gan BBC Cymru.
Mewn un achos, cymerwyd camau disgyblu yn erbyn aelod o staff.
Mewn chwe achos ni chafwyd hyd i'r ffynhonnell, ac mewn dau achos daeth ymchwiliadau i'r casgliad na chafodd unrhyw wybodaeth ei datgelu heb awdurdod.
Gwrthododd Llywodraeth Cymru â gwneud sylw.
Y llynedd daeth ymchwiliad i honiadau bod gwybodaeth am ddiswyddiad Carl Sargeant wedi ei rhyddhau i'r cyfryngau i'r casgliad oedd nad oedd tystiolaeth bod Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau gwybodaeth o flaen llaw am ad-drefnu'r cabinet a diswyddiad Mr Sargeant yn answyddogol.
Mae pennaeth y gwasanaeth sifil wedi gwrthod cyhoeddi'r adroddiad.
Y llynedd hefyd ni chafwyd hyd i'r sawl a ollyngodd wybodaeth ariannol am y dyn busnes y tu ôl i Gylchffordd Cymru.
Cafodd ymchwiliad mewnol ei lansio ar ôl adroddiad yn y Western Mail yn cyhoeddi faint y byddai Michael Carrick yn ei ennill petai'r cynllun wedi digwydd.
Yn ddiweddarach, dywedodd Michael Carrick wrth y BBC y byddai wedi derbyn £1.7m pe bai'r prosiect wedi'i gwblhau.
Cymerwyd y camau disgyblu yn erbyn aelod o staff yn 2016 yn dilyn gollwng gwybodaeth ynghylch "strategaeth drawsnewid ddigidol, dolen allanol" y llywodraeth, oedd yn cynnwys cynlluniau i alluogi cleifion i ymgynghori â'u meddyg teulu gan ddefnyddio ffôn symudol.
Wnaethon nhw ddim dod o hyd i'r sawl a ollyngodd wybodaeth mewn dau achos yn 2013 - y cyntaf yn ymwneud â phenderfyniad Llywodraeth Cymru i brynu Maes Awyr Caerdydd am £52m.
Roedd yr ail ynghylch Nodyn Cyngor Technegol diwygiedig TAN 20, sef canllawiau oedd yn ceisio sicrhau bod "awdurdodau cynllunio yn gallu defnyddio eu Cynlluniau Datblygu Lleol i liniaru effaith datblygiadau newydd ar y Gymraeg".
Daeth ymchwiliad yn 2011 i'r casgliad na chafodd unrhyw wybodaeth ei datgelu heb awdurdod ar ôl i undeb llafur honni bod gwas sifil wedi'i atal o'r gwaith am ddatgelu cynigion i gau swyddfeydd Llywodraeth Cymru.
Ni chafwyd hyd i'r ffynhonnell eto yn dilyn adroddiad ar WalesOnline y byddai cwmni cydrannau ceir o Japan, Toyoda Gosei, yn creu 600 o swyddi yng Nghymru.
Profodd dau ymchwiliad arall yn ddiffrwyth yn 2009, wedi adroddiad yn y Western Mail bod cais gan brif weithredwr Cyngor Chwaraeon Cymru, Dr Huw Jones, am "godiad cyflog o 11%" wedi cael ei wrthod, a hefyd ynghylch cais gan y llywodraeth am fwy o bwerau i ddeddfu i hyrwyddo'r Gymraeg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2017