Monwysyn yn ôl o Norwy i arwain seremoni Cymru a'r Byd

  • Cyhoeddwyd
Iori RobertsFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Ers dechrau crwydro'r byd yn 1964, mae Iori Roberts o Norwy wedi ymweld â'r Eisteddfod Genedlaethol "rhwng chwech ac wyth" o weithiau, ac yn gwneud ymdrech arbennig bob tro mae'n cael ei chynnal yn ei sir enedigol, Ynys Môn.

Ond wedi gwahoddiad a ddaeth "o nunlle" i fod yn arweinydd Cymru a'r Byd yng Nghaerdydd, mae'n ymweld â'r Brifwyl am y tro cyntaf eleni yn y de.

Bydd yn cael ei anrhydeddu mewn seremoni ar gychwyn Cymanfa Ganu'r Eisteddfod fore Sul yn y Pafiliwn, sef Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru.

Dywedodd y gŵr 77 oed o Amlwch ei fod yn "ofnus" ond yn edrych ymlaen cymaint nes "fedra' i'm cysgu'r nosweithia' 'ma! Mae'n andros o anrhydedd."

Mae wedi dysgu ffiseg mewn chwe gwlad - Jamaica, Uganda, Ynysoedd y Cayman, Lloegr, Norwy a Chymru. Bu'n athro am flwyddyn yn Ysgol Emrys ap Iwan, Abergele pan roedd yn magu teulu ifanc.

Mae'n cofio'r union ddyddiad y symudodd yn wreiddiol i Norwy - "30 Gorffennaf 1997" - ar ôl cwrdd â merch o'r wlad yn Affrica.

Bydd yntau a'i wraig yn cofio Awst 2018 hefyd ac nid yn unig oherwydd y profiad o arwain Cymru a'r Byd. Mae'r cwpwl ar fin dathlu'u pen-blwydd priodas aur.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Iori Roberts yn gwneud ei orau i fynd i'r Eisteddfod pan mae'n cael ei chynnal ym Môn ac fe roedd ym Modedern y llynedd

Wedi bron 30 mlynedd yn byw yn Norwy, ar ar ôl "hanner ymddeol", fe ddychwelodd i Uganda am dair blynedd i weithio'n wirfoddol gyda mudiad sy'n edrych ar ôl plant amddifad.

Ers dychwelyd i hemisffer y gogledd, mae wedi mynd â grŵp draw i Uganda bob blwyddyn i adeiladu tai ar gyfer y plant. Mae Mr Roberts a'i wraig hefyd wedi rhedeg cyrsiau mewn rhan ddifreintiedig o'r wlad ar sut i wneud profion ffiseg.

'Ma'r plant yn gas efo fi'

Mae eu plant a'u hwyrion yn byw o fewn awr i'r cartref teuluol yn Oslo, ond mae'r teulu cyfan yn treulio wythnos gyda'i gilydd yng Nghymru bob blwyddyn, gan rentu tŷ yn Llandudno. "Mae'n braf clywed iaith y gogledd," meddai.

Eto i gyd, Norwyeg mae'n siarad gyda'i ddwy ferch, Mari a Sara, a gafodd eu geni yn Oslo. Cafodd ei feibion, Dewi ac Ifor, eu geni yn Uganda a Llandudno.

Roedd yn arfer siarad Cymraeg gyda'i fab hynaf pan roedd y teulu'n byw yn Efrog ond daeth newid pan roedd y bachgen yn chwech oed. "Fo roedd yr unig blentyn dwyieithog yn yr ysgol ac roedd o'n cael amser ofnadwy.

"Ddoth o adra a deud 'Paid â siarad Cymraeg efo fi, Dad, ma'r plant yn gas efo fi'. Dydi plant ddim yn licio bod yn wahanol, na tydyn? Mae o'n dallt rhai geiria'. Dwi'n difaru byth ers hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 20 o aelodau Cymdeithas Cymry Oslo'n cwrdd yn rheolaidd yn y ddinas

Dywed bod cerddi Cymraeg y mae'n dal i'w cofio o'i wersi llenyddiaeth yn yr ysgol yn Llangefni "wedi bod yn andros o gysur" iddo dros y blynyddoedd.

Mae'n adrodd rhan o soned Y Peilon gan R Williams Parry wrth ddisgrifio iddo sylwi bod bedd y bardd wrth ymyl bedd ei nain ym mynwent Coetmor ger Bethesda, a bod rhes o beilonau ar y gorwel.

Arweinydd 'anffurfiol'

Iori Roberts yw un o sylfaenwyr Cymdeithas Cymry Oslo. Mae tua 20 aelod yn cyfarfod "ryw hanner dwsin" o weithiau bob blwyddyn.

Mae'n chwarae golff gydag Aneurin Rhys Huws, cyn-lysgennad y Comisiwn Ewropeaidd yn Oslo ac arweinydd Y Cymry ar Wasgar - rhagflaenydd Cymru a'r Byd - pan ymwelodd yr Eisteddfod Genedlaethol â Chaerdydd yn 1978.

Cyn gadael Norwy am Gymru, dywedodd Mr Roberts nad oedd bwriad pacio siwt yn ei gês ar gyfer ei ddyletswyddau yn y Brifwyl.

"Does neb byth yn gwisgo siwt yn Norwy! Mae'n le anffurfiol ofnadwy. Mae hyd yn oed y gweinidog mewn jeans a T-shirt dan ei gôt!"