Dallas, Dynasty... a Dinas

  • Cyhoeddwyd

Rydyn ni newydd gael Steddfod yn y ddinas ond pwy sy'n cofio'r gyfres deledu o'r 1980au oedd wedi ei lleoli yn y ddinas?

Ffynhonnell y llun, ITV Cymru / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Doedd yna ddim llawer o bethau oedd yn fwy ar deledu'r wythdegau na het y biliwnydd olew JR Ewing yn 'Dallas', padiau ysgwydd Joan Collins yn 'Dynasty' a helyntion y teuluoedd Ewing, Carrington a Colby, sêr y ddwy gyfres deledu.

Rhain oedd yr Americanwyr cyfalafol oedd yn adlewyrchu moesau'r ddegawd. Ac yn 1985 fe gafodd teledu Cymraeg ei iypis cyfalafol eiconig ei hun yn y gyfres sebon Dinas ar S4C, wedi ei lleoli yng Nghaerdydd.

Paul Ambrose (Geoff Wright) oedd y dyn busnes cyfoethog oedd yn teithio'r byd yn rhedeg ei gwmni llwyddiannus, tra roedd ei wraig Helen (Eiry Palfrey) a'u merch Miriam (Donna Edwards) yn byw eu bywyd breintiedig yn y brifddinas.

Roedd cyfoeth teuluol Paul Ambrose wedi ei seilio ar lo, yn hytrach nag olew yr Ewings yn Texas.

"Roedd hon yn gyfres arloesol," meddai Eiry Palfrey wrth gofio'r cyfnod mae hi'n ei ddisgrifio fel "un o'r cyfnodau gwaith gorau yn fy mywyd".

Ffynhonnell y llun, ITV Cymru / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Paul Ambrose yn selio cytundeb busnes doji arall yn Dinas...

"Yn sydyn roedd Cymry cefnog dinesig yn ymddangos ar S4C yn siarad a byw trwy'r Gymraeg.

"Roeddem ni i gyd yn gyffrous am hyn ac yn hynod falch o fod yn rhan o'r gyfres.

"Roedd yn gyfnod hapus iawn, a roeddwn yn drist iawn pan ddaeth i ben.

"Roeddem ni fel teulu bach clos, nid yn unig yr actorion, ond y criw, y cynhyrchwyr ar cyfarwyddwyr hefyd."

Ar y sgrin, roedd perthynas Helen a'i merch Miriam yn stormus ond tu ôl i'r llenni roedd Eiry a Donna yn ffrindiau.

Ffynhonnell y llun, ITV Cymru / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

'Dinas' - dim ond tair llythyren ac un sill yn brin o 'Dynasty'

"Doedd Helen a Miriam ddim yn deall ei gilydd o gwbl. Oddi ar y sgrin, roedd Donna a fi'n ffrindiau mawr," meddai.

"Roedd Helen yn dod o deulu eitha' cyffredin o Orllewin Cymru, ond fe briododd Paul Ambrose o deulu oedd wedi g'neud ffortiwn yn y cyfnod pan oedd glo yn frenin yn Nociau Caerdydd.

"Roedd Helen yn mwynhau'r cyfoeth, ac wedi datblygu'n dipyn o snob er gwaetha' ei chefndir gwerinol," meddai Eiry Palfrey am ei chymeriad.

"Roedd hi'n braf iawn cael gwisgo dillad moethus a mynd i siopau gorau Caerdydd, Y Bontfaen, a Llundain i'w prynu."

Ar ôl Dinas, aeth Eiry Palfrey i weithio yn y theatr ac yna daeth yn gynhyrchydd rhaglenni i gwmni Teliesyn cyn sefydlu ei chwmni ei hun, Tracrecord.

Daeth ei gŵr-ar-y-sgrin, Geoff Wright, yn diwtor iaith Gymraeg.

Mae Donna Edwards oedd yn actio Miriam, yn fwy adnabyddus erbyn hyn fel un o gymeriadau hirhoedlog Pobol y Cwm, Britt Monk.

Ffynhonnell y llun, ITV Cymru / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mwynhau 'byw yn y cymylau'

Un o ffrindiau gorau Helen Ambrose yn Dinas oedd Ruth Gregory (Christine Pritchard) a oedd yn rhedeg busnes recriwtio.

Wynford Ellis Owen oedd yn chwarae rhan ei gŵr - tipyn o naid o'i rôl gynharach fel Syr Wynff ap Concord y Bos yn y gyfres i blant, Syr Wynff a Plwmsan.

"Drama sebon am yr iypis Cymraeg oedd Dinas pan oedd materoliaeth (arian, eiddo, byd busnes) moesau doji (pŵer, mawrfri a hunanoldeb) yn codi'u pennau hyll ac yn rhinweddau ymhlith rhai o'n Cymry Cymraeg," cofia Wynford Ellis Owen

"Fy rhan i yn y gyfres oedd chwarae rôl Robin Gregory, newyddiadurwr busnes i'r papur cenedlaethol oedd yn cynnal ei waith mewn bistros a thafarndai uchel ael y ddinas gan wisgo dillad modern, chic o'r siopau drytaf posib mewn ymdrech aflwyddiannus i guddio'i ffaeleddau a'i amherffeithrwydd rhag y werin datws.

Ffynhonnell y llun, ITV Cymru / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Phil Reid, Delyth Morgan, Geraint Owen ac Ian Saynor ymhlith y cast

"Yn briod â Ruth Gregory, merch fusnes, hyderus, roedd ganddynt ddau o blant, a fflat y gallech gynnal gêm rygbi rhyngwladol ynddi!

"Mwynheais y profiad o fyw yn y cymylau - mae'n wir dweud imi symud i mewn i fyw ynddynt ar adegau - a thristwch pethau yw i S4C ddewis glynu hefo'r cyfarwydd (Pobol y Cwm) yn hytrach na chymryd gambl a symud gyda'r oes."

Wedi 40 mlynedd fel sgrifennwr, actor a chyfarwyddwr mae Wynford Ellis Owen bellach yn ymgynghorydd i wasanaethau i bobl sy'n gaeth i alcohol a chyffuriau ac wedi siarad yn gyhoeddus am ei frwydr ei hun gydag alcoholiaeth.

Mae ei ferch Bethan wedi sôn am ei hatgofion o fynd i set Dinas gyda'i thad a chael ei hysbrydoli gan y profiad, yn enwedig o weld marc lipstig Christine Pritchard ar gwpan goffi!

Hefyd o ddiddordeb:

Felly pa mor deg yw cymharu Dinas gyda Dynasty a Dallas?

"Roedden nhw o'r un cyfnod, gyda chefndir tebyg i raddau - cyfoeth, busnes, teulu," meddai Eiry Palfrey.

"A dywedwyd fod y gair 'Dinas' yn chwarae ar y gair 'Dynasty' - ond falle taw cyd-ddigwyddiad oedd hynny!"

Ffynhonnell y llun, ITV Cymru / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r sêr ifanc eraill ar y rhaglen oedd Rhodri Owen (dde) sydd bellach yn cyflwyno Heno ar S4C

Meddai Wynford Ellis Owen: "Babi'r cynhyrchydd teledu arobryn Graham Jones oedd Dinas ac roedd ei stamp Ffrancoffeilaidd drosti ym mhobman. Roedd dylanwad Dallas yn gryf ar Dinas hefyd. Gallwch ddychmygu'r gweddill!"

Cwmni teledu HTV - ITV Cymru bellach - oedd yn cynhyrchu'r gyfres, ac yn ogystal â Graham Jones mae'r rhestr o'r bobl eraill oedd yn cyfarwyddo a sgriptio yn un nodedig: Meredydd Owen, Bryn Richards a Ieuan Davies yn cyfarwyddo a'r sgriptiau gan dîm oedd yn cynnwys Gareth Miles, Dwynwen Berry, Geraint Lewis, Wil Roberts, Angharad Jones, Geraint Jones, Siwan Jones a Manon Rhys.

Roedd y teulu Ambrose yn gosod fflatiau i rai o gyn-fyfyrwyr coleg dychmygol Glannau Hafren o'r gyfres Coleg; yn eu mysg Elwyn Scourfield (Simon Fischer) â'i berthynas gyda merch yr Ambrosiaid, Miriam, yn creu sgandal.

Ffynhonnell y llun, S4c

Ymysg gweddill y cast roedd Tony Llywelyn (Dylan Pierce), Jennifer Lewis (Carys Jones), Naomi Jones (Helga Lewis), Iestyn Garlick (Richard Morris), Dt. Brif Arolygydd Jim Butler (David Lyn), Dt. Arolygydd David Humphreys (Huw Ceredig), Sarah Knowles (Gilian Elisa), Phil Jarvis (Noel Williams) a Sian Wyn (Helen Wyn).

Ffynhonnell y llun, ITV Cymru / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Iechyd da o'r brifddinas yn yr 1980au!

Darparwyd y lluniau gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru