Cloriau Sbec yn procio'r cof am hen raglenni S4C
- Cyhoeddwyd
Ers talwm, roedd gan S4C gylchgrawn sgleniog o'r enw Sbec yn llawn gwybodaeth am eich hoff raglenni ar y sianel.
Bob wythnos roedd rhai o selebs Cymru yn serennu ar y clawr neu roedd golygfa o un o raglenni'r sianel yn rhoi rhagflas o'r arlwy oedd i ddod.
Gyda rhaglen Cic Lan yr Archif gyda'r comedïwr Elis James yn dod â'r atgofion yn llifo nôl am raglenni Cymraeg y gorffennol, dyma fwrw golwg ar rai o hen gloriau Sbec o'r 1980au sy'n dod â phersonoliaethau dyddiau cynnar S4C, ac ambell raglen sydd wedi mynd yn angof, nôl yn fyw.
Pwy sy'n cofio rhain?
Ymhell cyn Ffit Cymru, un o brif raglenni S4C ar y funud, Elin Rhys a Huw Chiswell oedd yn ceisio annog y genedl i fod yn ffit a iach yn yr 1980au.
Roedd yr actor JO Roberts yn sbei efo gwn peryglus yn Cysgodion Gdansk.
Tybed ble mae'r plant bach yma erbyn hyn?
Cyfres ddinesig wedi ei gosod ar strydoedd Caerdydd oedd Bowen a'i Bartner yn dilyn helynt ditectif preifat oedd yn cael ei actio gan Jeff Thomas.
Ychydig iawn o ddramâu oedd ddim yn cynnwys John Ogwen yn yr 1980au - yma gyda Dyfan Roberts yn y gyfres Minafon.
Y Brodyr Gregory yn gwneud dynwarediad hynod o'r brodyr Mario gyda Sioned Mair yn dangos mor ffasiynol oedd leotards yn 1988.
Cynnwrf - roedd gan Hogia'r Wyddfa 'fideo newydd' i'r gân Tatws Trwy'u Crwyn yn 1986.
Siw Hughes, Sue Roderick, Gillian Elisa ac Eirlys Parri mewn cyfres o'r enw Codi Pais.
Roedd cadair fawr wellt Margaret Williams yn gymaint o seren y gyfres â hi.
Gwyn Llywelyn, un o gyflwynwyr y rhaglen gylchgrawn Hel Straeon, 'yn Ysbyty Gwynedd' ar ddydd Gwener.
Criw ifanc 'Jabas' a wnaeth Owain Gwilym yn dipyn o eilun i ferched Cymru.
Miriam Ambrose ac Elwyn Scourfield yn priodi yn Dinas, opera sebon fawr S4C yn yr 1980au.
Y digrifwr Gari Williams wedi mentro i'r cylch wreslo gydag Orig Williams.
Penwisg a gogls addas i'r gyfres yma.
Nadroedd a balaclafas - beth oedd yn mynd ymlaen fan hyn?
Sioned Mair eto - y tro yma'n modelu jumpsuit a hofrennydd.