Dynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Abergele
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau fod dynes wedi marw ar ôl cael ei tharo gan gerbyd yn Abergele.
Digwyddodd y ddamwain tua 18:00 nos Iau.
Fe wnaeth y gwasanaethau brys ymateb i'r digwyddiad, gan gynnwys yr ambiwlans awyr ond bu farw'r ddynes o'i hanafiadau.
Cafodd Dundonald Avenue ar yr A548 ei chau i'r ddau gyfeiriad yn dilyn y gwrthdrawiad.
Mae'r heddlu yn apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw drwy alw 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod W108427.