Rhys Meirion yn 'lwcus ofnadwy' i fod yn glir o ganser

Roedd Rhys Meirion yn canu fel rhan o seremoni'r coroni yn yr Eisteddfod brynhawn Llun
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Rhys Meirion yn canu fel rhan o seremoni'r coroni yn yr Eisteddfod brynhawn Llun

  • Cyhoeddwyd

Mae'r canwr Rhys Meirion wedi datgelu ei fod yn glir o ganser ac nad yw bellach yn derbyn unrhyw driniaeth.

Yn gynharach yn y flwyddyn fe gafodd ddiagnosis canser y coluddyn, ac fe dderbyniodd lawdriniaeth robotig i'w drin.

Ar raglen Dros Frecwast fore Iau, dywedodd ei fod yn "lwcus ofnadwy" ei fod wedi darganfod y canser yn gynnar, ac nad yw'n derbyn unrhyw "driniaeth o fath yn y byd" erbyn hyn.

Mae bellach yn annog eraill i gymryd rhan mewn rhaglenni sgrinio ar gyfer canser, gan ddweud mai dyna yw'r "gyfrinach" o ran trechu'r afiechyd.

"Dwi'n lwcus iawn, iawn a dwi 'di cael popeth yn glir, dim math o driniaeth o fath yn y byd," meddai.

"Dwi'n lwcus ofnadwy bo' fi wedi dal y canser yn gynnar a dyna'r gyfrinach - mae'n bwysig 'neud y sgrinio 'ma, dyna sut nes i ddod o hyd iddo fo.

"Dwi ddim eisiau dychryn neb ond o'n i'n meddwl mai un mewn tri fyddai'n cael diagnosis canser, ond mae o wedi mynd fyny i un o bob dau - felly mae o yma, mae o reit o flaen ein trwynau ni, 'da ni gyd yn mynd i 'nabod rhywun sy'n cael canser."

Esboniodd fod gwneud prawf sgrinio drwy'r post wedi cyflymu'r broses o dderbyn triniaeth hefyd.

"Fyswn i 'di gallu mynd at y doctor, ond drwy fynd y ffordd yna fysa fo wedi cymryd tri, pedwar mis i mi gael colonoscopy - ond drwy ei wneud o fel hyn o'n i'n cal colonoscopy o fewn tair wythnos, ac mae hynny'n andros o wahaniaeth.

"Mewn tair wythnos, stage dau o'n i - ond mewn tri, pedwar mis fyswn i wedi gallu bod yn stage tri â phroblemau mwy a gorfod cael cemotherapi ac ati."

'Dueddol o feddwl ein bod ni'n invincible'

Mae'r canwr bellach yn galw ar bobl i fanteisio ar y profion sgrinio sydd ar gael am wahanol fathau o ganser - gan bwysleisio fod hynny'n hanfodol yn y frwydr yn erbyn canser.

"Mae'r profion yma - y psa ar gyfer y prostad, ceg y groth, y smear test, y mamograms - maen nhw gyd ar gael am ddim.

"Dwi'n deud hyn rŵan, ond cyn i mi gael y diagnosis o'n i gyda'r gwaetha, mi oedd y prawf sgrinio yma yn y tŷ ers tua dau neu dri mis.

"Mi fyswn i'n meddwl 'o mi nai neud o, mi nai neud o', ac wedyn mi 'nes i fo yn y pendraw gan fy mod i wedi gweld chydig bach o waed yn y pw - ac wedyn lwcus bo' fi wedi 'neud o."

"Dwi'n meddwl ein bod ni, yn enwedig ni'r dynion, yn dueddol o feddwl ein bod ni'n invincible, neu fod rhywbeth fel hyn byth am ddigwydd i ni... ond mae o yma, a'r cynta'r byd gallwn ni ddarganfod o - y gorau."

Pynciau cysylltiedig