'Angen codi tâl ar "yfwyr anghyfrifol" am ambiwlansys'
- Cyhoeddwyd
Dylai "yfwyr anghyfrifol" sydd angen ambiwlans orfod talu am y gwasanaeth, yn ôl ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth y Ceidwadwyr Cymreig.
Mae AC De Orllewin Cymru, Suzy Davies, yn bwriadu cyflwyno'r syniad mewn araith ym Mhen-y-bont ddydd Llun wrth lansio'i hymgyrch.
Dywedodd wrth BBC Cymru pan mae rhywun ar fai mewn damwain ffordd maent o bosib yn gorfod talu am gost y gwasanaethau brys.
Mae cais wedi cael ei wneud i Wasanaeth Ambiwlans Cymru am sylw.
Bydd Ms Davies, sy'n ymgeisio yn erbyn Paul Davies AC Preseli Penfro, i arwain grŵp y Ceidwadwyr ym Mae Caerdydd, yn dweud: "Gallwn ni gyd fod yn gyfrifol am ein gweithredoedd.
"Dyna pam fy mod yn dweud y dylai pobl sy'n gwastraffu amser prin ein gwasanaeth ambiwlans drwy yfed mewn ffordd anghyfrifol orfod talu am y gwasanaeth."
Dywedodd tîm ymgyrchu Ms Davies bod ffigyrau diweddar yn dangos fod cost galw ambiwlans ar gyfartaledd yn £155.
Wrth siarad cyn ei haraith, dywedodd: "Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ddylai gynghori ar faint o amser y mae nhw yn ei dreulio yn delio â diotwyr anghyfrifol.
"Eisoes mae yna gynsail wedi'i osod ar gyfer hyn.
"Pam mae 'na wrthdrawiad ffordd lle mae rhywun ar fai, mi allai'r person yna eisoes orfod ad-dalu y gwasanaethau brys."
Mae disgwyl i Ms Davies hefyd ddweud ei bod hi'n awyddus i "uno ac ysbrydoli cefnogwyr oes y Ceidwadwyr yn ogystal â chyrraedd aelodau newydd".
Bydd yn awgrymu ei bod yn "adnabyddus am ddenu sylw pobl nad ydynt yn Geidwadwyr "naturiol" - fel bod modd i'r Ceidwadwyr "allu adlewyrchu'r cymunedau maent yn eu cynrychioli yn well, creu dadleuon newydd ac ennill mwy o seddi".
Yn ôl Ms Davies: "Mae hyn yn golygu cyfathrebu'n well a rhannu grym o fewn y blaid, eglurdeb ar ystyr "arweinydd Cymreig" a hunaniaeth ddigamsyniol Gymreig sy'n siarad yn uniongyrchol ag anghenion Cymru."
Mae Ms Davies - a'i hunig wrthwynebydd, Paul Davies - yn ymgeisio am yr arweinyddiaeth wedi i Andrew RT Davies ymddiswyddo ym mis Mehefin.
Lansiodd Paul Davies ei ymgyrch yr wythnos ddiwethaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Awst 2018
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2018