Suzy Davies i sefyll i arwain y Ceidwadwyr Cymreig

  • Cyhoeddwyd
Suzy Davies

Mae Suzy Davies wedi cyhoeddi y bydd yn sefyll i fod yn arweinydd nesaf y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad.

Byddai hynny'n golygu bod cystadleuaeth i olynu Andrew RT Davies yn y swydd.

Mae'r arweinydd dros dro, Paul Davies, eisoes wedi dweud ei fod yn awyddus i sefyll.

Daeth cadarnhad bod Ms Davies wedi sicrhau cefnogaeth digon o ACau yng ngrŵp y Ceidwadwyr Cymreig, gyda Mark Isherwood, David Melding a Janet Finch-Saunders wedi datgan eu cefnogaeth.

Gweithio â Plaid

Dywedodd hefyd y byddai'n fodlon cydweithio gyda Phlaid Cymru er mwyn disodli'r Llywodraeth Lafur yng Nghymru.

"Mae'n hanfodol bod aelodau'n cael mynegi barn am bwy ddylai olynu Andrew," meddai Ms Davies.

Wrth ddiolch i Andrew RT Davies am ei waith fel arweinydd, ychwanegodd: "Mae dal Llywodraeth Lafur Cymru i gyfrif yn hollbwysig, ond dyna unig rôl arweinydd.

"Rwy'n cefnogi Theresa May yn llawn fel y prif weinidog wrth iddi weithio i sicrhau bod Cymru'n cael y math o Brexit y gwnaeth bleidleisio drosto, ond dyw hynny ddim yn golygu y byddaf yn peidio siarad ar ran Cymru mewn cyfarfodydd gyda hi a gweddill Llywodraeth y DU."

Disgrifiad,

Dywedodd Suzy Davies y byddai'n fodlon cydweithio â Phlaid Cymru

Mewn cyfweliad ar raglen Post Cyntaf ddydd Mercher, dywedodd Ms Davies y dylai arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad hefyd arwain y blaid yng Nghymru.

"Dyna sgwrs mae'n rhaid i ni gael gyda'r aelodaeth ac ein ffrindiau lawr yn San Steffan," meddai.

"Mae'r Cynulliad wedi newid ers 1999 ac mae'r pwerau 'na wedi dod o San Steffan... mae'n bwysig i gyfansoddiad y blaid dal lan gyda cyfansoddiad y wlad.

"Dyw ddim yn mynd i fod yn hawdd i berswadio pawb, ond i fi... 'di o ddim yn neud sens i gael rhywun sy'n gyfrifol dros Gymru i beidio cael yr enw 'arweinydd'."

Andrew RT Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Andrew RT Davies ei fod wedi gorfod ymddiswyddo yn dilyn cyfarfod o grŵp y blaid yn y Cynulliad

Yr wythnos diwethaf fe wnaeth Andrew RT Davies ymddiswyddo yn dilyn saith mlynedd yn y rôl.

Yn dilyn hynny fe awgrymodd bod ymgyrch wedi bod ar droed ers sbel i gael gwared arno, a hynny "o ben arall yr M4".

Yn dilyn ei ymadawiad fe wnaeth Paul Davies, AC Preseli Penfro, ddatgan ei ddiddordeb yn y swydd.

Mae cyn-Ysgrifennydd Cymru, David Jones, eisoes wedi dweud y dylai'r arweinydd newydd fod yn Ewrosgeptig fel Andrew RT Davies, er mwyn adlewyrchu barn aelodau ar lawr gwlad.

Cafodd Suzy Davies ei hethol i'r Cynulliad yn 2011 i gynrychioli Gorllewin De Cymru, ac ar hyn o bryd mae'n llefarydd i'r Ceidwadwyr ar ddiwylliant, twristiaeth a'r iaith Gymraeg yn y Cynulliad.