Catrin Dafydd yn ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol
- Cyhoeddwyd
Catrin Dafydd yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.
Yn wreiddiol o Waelod y Garth, graddiodd yn Aberystwyth lle'r oedd hi'n Llywydd UMCA o 2003-2004. Erbyn hyn mae 'n byw yng Nghaerdydd, ac yn aelod o dîm ysgrifennu Pobol y Cwm.
Cafwyd 42 casgliad o gerddi eu cyflwyno yn y gystadleuaeth. Tasg y beirdd oedd cyflwyno casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn, ac heb fod dros 250 o linellau, ar y testun 'Olion'.
Y beirniaid oedd y cyn-Archdderwydd Christine James, Ifor ap Glyn a Damian Walford Davies.
Llwyddodd 14 o feirdd i gyrraedd dosbarth cyntaf o leiaf un o'r beirniaid, gyda'r tri beirniad yn gytun bod pump yn cyrraedd brig y gystadleuaeth eleni.
'Braint aruthrol'
Yn dilyn y seremoni yng Nghanolfan y Mileniwm, dywedodd Catrin Dafydd:
"Mae'n fraint aruthrol, ac yn anodd ei roi mewn geiriau. Mae cael bod yn rhan o'r Steddfod a chlywed geiriau caredig y beirniaid yn anhygoel.
"Mae cymuned Grangetown yn le difyr iawn - mae 'na newidiadau mawr yn y gymuned a lot o Gymry Cymraeg yn symud yno, a rhyw elfen o gentrification efallai.
"Ond hefyd, mae gen ti beth hardd yn digwydd yno, ble mae gen ti gymaint o gymunedau gwahanol yn cyd-fyw, a'r Gymraeg yn rhan o'r cymunedau hynny".
Ychwanegodd: "O'n i moyn talu teyrnged hefyd i'r ymgyrchwyr wnaeth sefydlu Ysgol Hamadryad, sydd nid nepell o'r maes, a dathlu bod rhyw wawr newydd yn yr ardal hon o safbwynt y Gymraeg.
"O'dd e yn ymdrech wrth siarad am themâu eithaf dwys i geisio dweud ambell i beth yn ysgafn hefyd".
Wrth draddodi'r feirniadaeth dywedodd Christine James: "Er nad oeddem fel beirniaid yn gwbl unfryd ynghylch safle pob bardd yn y gystadleuaeth, roeddem yn bur gytun o'r cychwyn ynghylch y goreuon.
Ac er bod "pob un hefyd yn syrthio'n brin o'i safonau uchaf ei hunan ar brydiau", roedd y beirniaid hefyd yn gytun bod tri o'r pump yn deilwng o'r Goron eleni, gyda chasgliad 'Yma' yn dod i'r brig o drwch blewyn.
Casgliad 'amserol ac apelgar'
Ychwanegodd Christine James: "Cymreictod 'cymysg' Trelluest (Grangetown) - yr ardal sydd am yr afon â safle'r Eisteddfod eleni - yw testun y casgliad hwn. Ynddo, fe'n cyflwynir trwy gyfres o fonologau dramatig i gymuned o gymeriadau a osodwyd ar 'fap' o strydoedd lleol.
"Gall 'Yma' ganu'n dyner, ond hefyd â'i dafod-yn-y-boch, fel yn y gerdd 'Jentrifficeshyn', sy'n codi cwestiynau dilys ynghylch beth yn union sy'n digwydd pan fydd Cymry Cymraeg yn 'coloneiddio' rhan o'r ddinas.
"Dyma gasgliad amserol ac apelgar o obeithiol gan fardd sy'n lladmerydd huawdl dros Gymreictod cymysg, byrlymus y brifddinas."
Awdur a bardd
Mae Catrin Dafydd yn awdur pum nofel, gyda'r diweddaraf, Gwales, yn ennill Wobr Ffuglen cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn eleni.
Bu'n olygydd ar gylchgrawn Tu Chwith a Dim Lol ac yn 2011, roedd ymhlith y beirdd a sefydlodd nosweithiau annibynnol Bragdy'r Beirdd.
Yn dilyn y seremoni fe fydd yn paratoi ar gyfer y 'Siwper Stomp' ar lwyfan y Pafiliwn nos Lun, lle bydd yn perfformio gyda gweddill criw'r Bragdy.
Yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd y cyfansoddwyd talp helaeth o'r cerddi, ac mae Catrin yn ddiolchgar i'w chariad, Dyfed, am y sgyrsiau, y chwerthin ac am ei hannog i ddal ati gyda cherddi'r Goron yn ystod misoedd oer y gaeaf.
Coron yr Eisteddfod
Cafodd y Goron ei rhoi gan Brifysgol Caerdydd gyda'r enillydd yn derbyn £750 yn rhoddedig gan Manon Rhys a Jim Parc Nest - dau sydd wedi ennill y gystadleuaeth yn y gorffenol.
Laura Thomas o Gastell-nedd oedd yn gyfrifol am ddylunio'r Goron, gan dreulio 400 awr ar y gwaith. Mae hi'n adnabyddus am ei defnydd o waith parquet lle mae'n gosod argaenau pren mewn arian pur.
Mae'r Goron yn cynnwys dros 600 o argaenau chweochrog, pob un wedi cael ei ychwanegu â llaw.
Y tro diwethaf i'r brifwyl gael ei chynnal yn y brifddinas enillwyd y Goron gan Hywel Meilyr Griffiths, Siôn Eirian enillodd y Goron yn Eisteddfod Caerdydd 1978 ac ym mhrifwyl y brifddinas yn 1960 fe enillwyd y goron gan W J Gruffydd (Elerydd).