Gwesty gafodd ei ddifrodi gan dân yn parhau yn beryglus
- Cyhoeddwyd
Dywed yr heddlu sy'n ymchwilio i achos tân difrifol mewn gwesty yn Aberystwyth fod yr adeilad yn parhau i fod yn rhy beryglus i swyddogion allu cynnal archwiliad llawn.
Yn y cyfamser, mae Heddlu Dyfed-Powys wedi llwyddo i roi gwybod i deulu dyn o Lithwania sydd wedi bod ar goll yn dilyn y tân yng ngwesty Tŷ Belgrave yn oriau man 25 Gorffennaf.
Dywedodd y ditectif uwch arolygydd Huw Davies: "Rydym wedi cysylltu â nhw gan roi'r manylion diweddara am yr ymchwiliad."
Mae un dyn 30 wedi ei gyhuddo ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd.
Fe wnaeth Damion Harris o Lanbadarn ymddangos o flaen ynadon Aberystwyth dydd Iau diwethaf ac mae wedi ei i gadw yn y ddalfa tan ei ymddangosiad yn Llys y Goron Abertawe ar 24 Awst.
"Rydym yn dal i aros i ddarganfod achos y tân, ac mae'r gwaith o geisio diogelu'r adeilad tra'n amddiffyn tystiolaeth fforensig yn parhau," meddai'r ditectif uwch arolygydd Davies.
"Rydym yn amcan na fydd yn bosib cael mynediad i'r adeilad tan yr wythnos nesa, fan cynharaf."
Fe fydd yr heddlu a'r frigâd dan yn cynnal ymchwiliad ar y cyd.
Mae'r heddlu yn parhau i apelio am dystio'n oedd yn ardal Tŷ Belgrave rhwng hanner nos dydd Mawrth 24 Gorffennaf a 03:00 25 Gorffennaf gan ofyn iddynt gysylltu â nhw ar 101 neu yn ddienw ar 0800 555 111.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Awst 2018
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2018