Ceidwadwyr: Trethdalwyr yn 'talu am esgeulustod y GIG'
- Cyhoeddwyd
Mae trethdalwyr yn cael eu heffeithio gan gostau cynyddol o ganlyniad i esgeulustod clinigol gan y GIG, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.
Dywedodd y blaid ei bod hi'n "frawychus ac yn gywilyddus" fod y saith bwrdd iechyd wedi talu allan dros £90m mewn iawndal yn 2017-18, cynnydd o 43% mewn pedair blynedd.
Yn ôl llefarydd ar ran Iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Angela Burns, dylai Llywodraeth Cymru gynnal ymchwiliad a chyflwyno mesurau i fynd i'r afael â phwysau ar staff a peryg dal haint.
Mae'r llywodraeth wedi derbyn cais am ymateb.
Dangosai ffigyrau swyddogol y byrddau iechyd fod taliadau wedi cynyddu o £64m am 643 achos yn 2013-14 i £91.4m am 792 achos yn 2017-18.
Mae'r swm yn cyfateb i 1.5% o gyllideb £6bn y GIG.
'Pwysau anferthol'
Dros y cyfnod yma, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro welodd y cynnydd mwyaf o £6.2m i £22.2m.
Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr brofodd y cynnydd mwyaf yn y nifer o bobl yn hawlio yn eu herbyn - o 98 i 193.
Dywedodd Ms Burns: "Mae'r taliadau enfawr hyn yn adlewyrchiad clir o'r pwysau anferthol sydd ar weithlu'r GIG, sydd â diffyg adnoddau a diffyg staff".
"Mae hi'n andros o rwystredig nad yw ceiniog o'r symiau enfawr hyn yn cael ei wario ar wella gofal cleifion.
"Mae peryglon yn amlwg yn rhan annatod o ofal meddygol, ond mae modd cymryd camau i sicrhau nad yw'r peryglon hyn yn cynyddu."
Awgrymai Ms Burns y dylid gwella arferion glanhau, trefnu'r gweithlu yn well a chynnig cyfleoedd hyfforddi ehangach.
Ychwanegodd: "Dylai Llafur Cymru gynnal ymchwiliad brys i'w meddygfeydd er mwyn canfod pam fod cymaint o gynnydd yn y nifer sy'n hawlio arian gan y GIG, a rhoi mesurau yn eu lle i osgoi peryglon yn y lle cyntaf".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd31 Mai 2018
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2018