Davies yn awgrymu codi treth incwm o 1c i ariannu'r GIG

  • Cyhoeddwyd
Alun DaviesFfynhonnell y llun, Llafur
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alun Davies y byddai pobl yn hapus i roi mwy o'u harian i ariannu'r GIG

Byddai pobl yn hapus i weld 1c yn cael ei ychwanegu at y dreth incwm pe bai'n mynd tuag at ariannu GIG Cymru, yn ôl yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo peidio cynyddu cyfraddau treth yn ystod y Cynulliad presennol, fydd yn dod i ben yng ngwanwyn 2021.

Ond gyda'r ras am arweinyddiaeth Llafur Cymru yn y cefndir, dywedodd Alun Davies y dylai'r blaid "fod yn barod i godi'r arian sydd ei angen i fynd i'r afael â llymder".

Dyw AC Blaenau Gwent ddim wedi datgelu eto a fydd yn ymgeisydd i fod yn brif weinidog nesaf Cymru.

'Ariannu ein polisïau'

Bydd gweinidogion yn gallu newid cyfraddau treth incwm Cymru hyd at 10c pan fyddan nhw'n cael eu datganoli'r flwyddyn nesaf.

Dywedodd Mr Davies wrth BBC Cymru nad oedd yn herio addewid Llywodraeth Cymru i beidio cynyddu treth incwm.

Ond ychwanegodd: "Pan 'dyn ni'n mynd i etholiad 2021 mae angen i ni fod yn glir iawn am sut 'dyn ni'n mynd i fod yn ariannu ein polisïau a'n uchelgeisiau.

"Mae'n rhaid i ni feddwl yn galed am beth sy'n digwydd gyda'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol heddiw."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y cyhoedd yn "hapus i bleidleisio dros geiniog i'r Gwasanaeth Iechyd" medd Alun Davies

Dywedodd Mr Davies nad yw'n ddigon i'w blaid ddweud mai "oll rydyn ni'n ei wneud yw lleddfu polisi'r Torïaid".

"Os 'dyn ni wir yn credu yn yr hyn ni'n ei ddweud, mae'n rhaid i ni ddefnyddio'r holl bwerau sydd gennym," meddai.

"Un o'r pwerau hynny yw treth incwm, ac rwy'n credu y byddai pobl Cymru'n hapus i bleidleisio dros geiniog i'r Gwasanaeth Iechyd, ceiniog i weledigaeth Aneurin Bevan, ceiniog i uchelgais Aneurin Bevan."

Ychwanegodd Mr Davies bod Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i leddfu'r gwaethaf o bolisi llymder Llywodraeth y DU.

"Ond mae'n rhaid i ni, Llywodraeth Cymru, fod yn barod i godi'r arian sydd ei angen i fynd i'r afael â llymder, yn ogystal â gwario'r arian mewn ffordd sy'n amddiffyn y rhai gwannaf a mwyaf bregus yn ein cymdeithas," meddai.

Ymgeisio am yr arweinyddiaeth?

Dywedodd Mr Davies bod "nifer o bobl" wedi dweud wrtho y dylai ystyried ymgeisio i fod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru, ond ei fod eisiau trafod polisi cyn trafod arweinyddiaeth.

Ychwanegodd bod angen gweithio mewn ffordd "radical" ac y byddai'n "hapus cefnogi ymgeisydd arall hefyd" pe baen nhw'n rhannu'r syniad hwnnw.

Ym mis Ebrill fe gyhoeddodd Carwyn Jones y bydd yn camu o'r neilltu fel prif weinidog ac arweinydd ei blaid yng Nghymru cyn diwedd y flwyddyn.

Yr unig ymgeisydd pendant i'w olynu hyd yn hyn yw'r Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford.

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething hefyd wedi cyhoeddi ei fwriad i sefyll, ond does ganddo ddim cefnogaeth y nifer angenrheidiol o ACau hyd yma.