Tim Heeley yn ennill Tlws y Cerddor yn yr Eisteddfod

  • Cyhoeddwyd
tim

Enillydd Tlws y Cerddor Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 yw Tim Heeley.

Yn wreiddiol o Scarborough, graddiodd mewn Cyfansoddi ac Offeryniaeth a Threfnu ym Mhrifysgol Bangor, cyn mynd i ddysgu yn Ysgol Bryn Elian ac yna i Ysgol Brynhyfryd, Coleg Cambria a Gwasanaeth Cerdd Sir y Fflint.

Eleni roedd y gystadleuaeth yn gofyn am ddarn i gerddorfa lawn fyddai'n gweddu i ddrama dditectif ar y teledu, a hynny heb fod yn hirach na saith munud.

Mae Tim Heeley yn derbyn Tlws y Cerddor (Urdd Cerddoriaeth Cymru) , £750 ac ysgoloriaeth gwerin £2,000 i hyrwyddo ei yrfa.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd John Rea fod y gwaith o safon uchel iawn

'Mwynhau'r profiad'

Fel cerddor dyw Tim Heeley ddim yn anghyfarwydd â pherfformio ar lwyfan Canolfan y Mileniwm - ond roedd ennill yn yr Eisteddfod yno'n brofiad gwahanol.

"Pan ti'n chwarae'r piano ti'n eistedd yna'n edrych ar y gerddoriaeth ac yn canolbwyntio, felly roedd e'n braf i jyst eistedd a mwynhau'r profiad," meddai wrth Cymru Fyw ar ôl y seremoni.

Roedd y testun o gyfansoddi darn ar gyfer drama dditectif hefyd yn golygu heriau gwahanol, gyda'r cyfansoddwr yn gorfod dychmygu sut fath o stori fyddai'n mynd gyda'r gerddoriaeth.

"Dwi wedi gwrando ar lawer o gerddoriaeth a'r rhaglenni teledu, a gweld sut maen nhw'n dweud y stori, sut maen nhw'n creu'r atmosffer arbennig, a wedyn nes i drio creu rhywbeth sy'n swnio fel popeth ond hefyd rhywbeth sy'n wreiddiol iawn," meddai.

"Dwi wedi sgwennu tipyn bach o stori, a gadael tipyn bach o mystery ar gyfer y beirniaid i ffeindio pwy sy'n neud o, achos mae 'na themâu drwy'r gerddoriaeth, ac un o'r themâu sydd wedi'i wneud o."

'Gwaith o safon uchel'

Y tri beirniad oedd John Rea, John Hardy ac Owain Llwyd, ac wrth draddodi ar ran ei gyd-feirniaid, dywedodd John Rae: "Mae hwn yn waith o safon uchel iawn. Dyma gyfansoddwr profiadol sydd yn feistr ar y grefft o ysgrifennu i gerddorfa lawn. Ar y cyfan, dyma waith godidog drwyddi draw.

"I bob pwrpas, pecyn addysgiadol yw 'Gafael ar y Gwir'. Rhaid inni "ddeall y stori yn y gerddoriaeth, ac felly i ddatrys y dirgelwch o bwy sy'n euog".

"Mae'r ymdriniaeth yma yn un sy'n debyg i gyngerdd cerddorfaol ar gyfer plant ac ysgolion sy'n dod â'r gerddoriaeth y rhaglen dditectif fwyaf poblogaidd yn dod yn fyw.

Disgrifiad o’r llun,

Tm Heeley ar lwyfan Canolfan y Mileniwm yn ystod y seremoni

"Mae'r syniad yma yn ddiddorol o ran cyd-destun cystadleuaeth Tlws y Cerddor, sef, cyflwyno croestoriad o themâu ar gyfer drama dditectif ffug. Heb os, mae gan y cyfansoddwr hwn ddisgyblaeth a charedigrwydd llwyr. Hoffwn glywed cyfraniad y cyfansoddwr i'r genre ddrama dditectif ar gyfer y teledu yn fyw gyda cherddorfa lawn."

Yn gynnar iawn yn ei yrfa, penderfynodd Tim Heeley ddysgu Cymraeg. Mae wedi astudio a chwblhau'r rhan fwyaf o'r cyrsiau Cymraeg i Oedolion, ac eleni, wedi bod yn rhan o Gynllun Sabothol Cymraeg Prifysgol Bangor. Mae hyn yn golygu ei fod bellach yn gallu cyflwyno ei wersi Cerddoriaeth bob dydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cyfeilio ac arwain

Ar hyd ei yrfa gerddorol mae wedi cyflawni amrywiaeth o rolau. Mae wedi cyfeilio i gorau ac unigolion, wedi trefnu cerddoriaeth ar gyfer corau, bandiau a cherddorfeydd, wedi bod yn gyfarwyddwr cerddorol ar sioeau cerdd, ac wedi arwain nifer o gorau a cherddorfeydd.

Mae bellach yn arwain Côr Bach Trelawnyd, sy'n perfformio ledled gogledd Cymru. Mae hefyd wedi cael profiad o weithio gyda phrosiectau creadigol mawr, gan gynnwys perfformiadau ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Cadw.

Mae hefyd wedi hyfforddi nifer fawr o ddisgyblion ar gyfer Eisteddfod yr Urdd. Dros y blynyddoedd, mae wedi cael llwyddiant mewn amrywiaeth o gystadlaethau ar lwyfan yr Eisteddfod, gan gynnwys cystadlaethau cerdd dant, detholiad allan o sioe gerdd, caneuon actol, bandiau a chorau. Eleni, am y tro cyntaf, penderfynodd Tim ei hun gystadlu gyda'r cyfansoddiad buddugol hwn.

Gwobr gymharol newydd yw Tlws y Cerddor - doedd yna ddim teilyngdod yn Eisteddfod Ynys Môn y llynedd, ond yn y brifddinas yn 2008 enillydd y tlws oedd y cerddor Eilir Owen Griffiths.