Cyhoeddi carfan merched Cymru a chytundeb newydd i Ludlow

  • Cyhoeddwyd
Jayne Ludlow
Disgrifiad o’r llun,

Mae rheolwr tîm merched Cymru, Jayne Ludlow, wedi arwyddo cytundeb newydd pedair blynedd i barhau fel rheolwr tîm pêl-droed merched Cymru

Mae rheolwr tîm pêl-droed merched Cymru, Jayne Ludlow wedi cyhoeddi'r garfan ar gyfer y gêm dyngedfennol yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2019 yn erbyn Merched Lloegr.

Fe fydd tîm Jayne Ludlow yn herio Lloegr yn stadiwm Rodney Parade, Casnewydd ar 31 Awst.

Daeth cadarnhad hefyd gan Gymdeithas Bêl-Droed Cymru bod Jayne Ludlow wedi ymestyn ei chytundeb am bedair blynedd i barhau fel rheolwr tîm pêl-droed merched Cymru.

Mae chwaraewyr profiadol megis Jess Fishlock, Sophie Ingle, Natasha Harding ac Angharad James i gyd wedi eu cynnwys.

Mae Kayleigh Green hefyd yn y garfan ar ôl iddi hi sgorio pedair gôl hyd yma yn yr ymgyrch, ond bydd Charlie Escourt yn absennol oherwydd anaf.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gêm dyngedfennol yn cael ei chwarae ar Rodney Parade yng Nghasnewydd ar 31 Awst

Bydd Ffion Morgan yn dychwelyd i'r garfan ar ôl bod allan gydag anaf a bydd Peyton Vincze o Oklahoma yn ymuno am y tro cyntaf ers mis Hydref llynedd.

Mae Cymru ar frig y grŵp o un pwynt ar hyn o bryd, ond mae gan Loegr ddwy gêm ar ôl i'w chwarae ble mai dim ond un sydd gan Gymru.

Pe bai Cymru'n trechu Lloegr fe fyddai tîm y merched yn cyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf yn eu hanes.

'her anoddaf'

Ond fe allai Cymru wynebu gemau ail gyfle pe byddan nhw'n gorffen yn ail yn y grŵp.

Mewn cynhadledd i'r wasg ar faes yr Eisteddfod ddydd Iau, dywedodd Ludlow fod y tîm yn barod ar gyfer "her anoddaf" eu hymgyrch.

"Rydyn ni wedi bod ar daith hynod o ddiddorol, cyffrous, anodd (yn ystod yr ymgyrch)," meddai.

Ychwanegodd fod wynebu Lloegr yn ei gwneud hi'n "fwy cyffrous".

Dywedodd hefyd fod y tîm yn "mwynhau'r awyrgylch" yn stadiwm Rodney Parade yn fawr, ac y byddai hynny'n rhoi mantais ychwanegol i Gymru.

"Rydyn ni'n gobeithio am grochan o gefnogaeth Gymreig brwd," meddai.

Carfan Cymru yn llawn:

Golwyr: Clair Skinner (Caerdydd), Olivia Clarke (Nettleham), Laura O'Sullivan (Cyncoed);

Amddiffynwyr: Loren Dykes (Bristol City), Sophie Ingle (Chelsea), Alice Griffiths (Caerdydd), Rhiannon Roberts (Lerpwl), Rachel Rowe (Reading), Gemma Evans (Bristol City), Elise Hughes (Everton);

Canol Cae: Jess Fishloch (Seattle Reign), Hayley Ladd (Birmingham City), Angharad James (Everton), Nadia Lawrence (Caerdydd), Natasha Harding (Reading), Ffion Morgan (Caerdydd);

Ymosodwyr: Helen Ward (Watford), Kylie Nolan (Caerdydd), Peyton Vincze (Oklahoma), Kayleigh Green (Brighton).