Merched Cymru i herio Lloegr yn Rodney Parade

  • Cyhoeddwyd
Rodney ParadeFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Bydd y gêm dyngedfennol rhwng merched Cymru a Lloegr ym mis Awst yn cael ei chwarae yn stadiwm Rodney Parade yng Nghasnewydd.

Pe bai Cymru'n trechu Lloegr fe fyddai tîm y merched yn cyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf yn eu hanes.

Ond fe allai Cymru wynebu gemau ail gyfle pe byddan nhw'n gorffen yn ail yn y grŵp.

Mae Cymru ar frig y grŵp o un pwynt ar hyn o bryd, ond mae gan Loegr ddwy gêm ar ôl i'w chwarae ble mai dim ond un sydd gan Gymru.

Mae lle i tua 5,000 o gefnogwyr yn Rodney Parade, ac mae'n debyg bod Cae Ras Wrecsam wedi cael ei ystyried i gynnal y gêm hefyd.

Daeth 1,214 o gefnogwyr i wylio'r merched yn trechu Rwsia ym Mharc Spytty yng Nghasnewydd ar 12 Mehefin, a 2,645 i Stadiwm Liberty ychydig ddyddiau ynghynt i'w gweld yn herio Bosnia-Herzegovina.

Bydd cic gyntaf y gêm yn Rodney Parade am 19:45 ar 31 Awst.