Uwch Gynghrair: Bournemouth 2-0 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Ymweliad go anghyfforddus â Bournemouth gafodd yr Adar Gleision ar ddydd Sadwrn cyntaf eu cyfnod newydd yn yr Uwch Gynghrair.
Roedd Bournemouth yn fwy abl yn dechnegol na Chaerdydd - roedd eu pasio'n gyflymach a chywirach.
Nid oedd amddiffyn cadarn y llynedd yn amlwg iawn ymhlith yr Adar Gleision yn enwedig wrth i Ryan Fraser fanteisio ar farcio gwan.
Gwthiodd y bêl yn ddeheuig i'r rhwyd ar ôl pedair munud ar hugain.
Naw munud yn ddiweddarach roedd yna gic gosb i'r tîm cartref wedi i Callum Wilson fynd lawr yn y blwch cosbi ar ôl cyffyrddiad gan Manga.
Saethodd Wilson am gornel dde y rhwyd ond yn wyrthiol trodd Neil Etheridge y bêl heibio'r postyn a hynny yn ei gêm Uwch Gynghrair gyntaf.
Cododd ysbryd yr Adar Gleision wedi hynny a thrwch blewyn oedd na rhwng peniad Nathaniel Mendez-Laing a chefn y rhwyd ar y tri chwarter awr.
Er bod rhagoriaeth Bournemouth yn parhau yn amlwg yn yr ail hanner, fe ddeffrodd y tîm o Gymru a daeth sawl cyfle i'r Adar Gleision.
Selio'r fuddugoliaeth
Roedd y glaw yn tywallt i lawr yn ystod rhan helaetha'r gêm ond daeth cyfleoedd da i Callum Petterson, David Brookes, a Sean Morrison.
Ciciau cosb a chiciau cornel oedd ffynhonnell goliau cyson Caerdydd y llynedd ac edrychai yn fwyfwy tebyg mai dyma fyddai eu gobaith yn y gêm hon hefyd.
Ond â'r gem funud heibio'r naw deg munud fe roddodd Callum Wilson ergyd farwol i obaith Caerdydd - wedi cic gornel fe ddaeth y bêl at draed Wilson yng nghanol y blwch cosbi a chyda chic fel mellten i gornel chwith y gôl roedd Bournemouth wedi sicrhau eu tri phwynt cyntaf o'r tymor.
Dechrau siomedig i dîm Neil Warnock felly gan mai gemau fel hyn yn erbyn timau llai fel Bournemouth yw gobaith gorau'r Adar Gleision i ennill pwyntiau oddi cartref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Awst 2018