Gêm gyntaf Caerdydd nôl yn Uwch Gynghrair Lloegr
- Cyhoeddwyd
Fe fydd Caerdydd yn teithio i Bournemouth ddydd Sadwrn i chwarae eu gêm gyntaf nôl yn Uwch Gynghrair Lloegr, bedair blynedd ar ôl disgyn o'r adran.
Mae rheolwr yr Adar Gleision, Neil Warnock eisoes yn gwybod na fydd un o'i chwaraewyr newydd ar gael, mae Harry Arter ar fenthyg o Bournemouth, felly ni fydd ar gael i chwarae.
Fe allai Victor Camarasa, wnaeth arwyddo ar fenthyg o Real Betis, ddechrau yng nghanol y cae i Gaerdydd, wrth i Warnock geisio cael dechrau da i'r tymor.
Mae Caerdydd wedi gwario tua £30m yn ystod y ffenestr drosglwyddo, ac wedi ychwanegu Greg Cunningham, Bobby Reid, Josh Murphy ac Alex Smithies i'w carfan ar gytundebau parhaol.
Mae Bournemouth yn mynd fewn i'r gêm gyda sawl wyneb newydd fydd yn gobeithio dechrau i'w clwb newydd.
Un o'r rheiny yw'r chwaraewr canol cae, Jefferson Lema, wnaeth arwyddo am £27m o Levante yn Sbaen.
Daeth i'r amlwg fod Neil Warnock wedi ceisio arwyddo Lerma i Gaerdydd, ond fod y pris yn llawer rhy uchel i'r Adar Gleision i'w ystyried.
'Llwyddiant mwya'"
Dyma'r tro cyntaf i'r ddau glwb gwrdd ar y lefel uchaf yn Lloegr a dim ond dwy allan o 15 gêm yn erbyn Bournemouth mae Caerdydd wedi llwyddo i ennill yn y gorffennol.
Wrth edrych ymlaen at y tymor mae Caerdydd yn ffefrynnau i ddisgyn o'r gynghrair ar ddiwedd y tymor yn ôl sawl un o'r bwcis a'r gwybodusion.
Ond mae Warnock eisoes wedi dweud os all ef gadw Caerdydd yn yr uwch adran, yna dyna fuasai "llwyddiant mwyaf ei yrfa, hyd yn oed yn fwy na chael Caerdydd fyny yn y lle cyntaf".
Bydd y gic gyntaf rhwng Bournemouth a Caerdydd am 15:00 ddydd Sadwrn a bydd sylwebaeth lawn o'r gêm ar radio digidol yn y de ddwyrain.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2018