Sylwadau burka UKIP yn 'cryfhau' troseddau casineb

  • Cyhoeddwyd
Gareth Bennett
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Gareth Bennett ei ethol fel arweinydd UKIP yn y Cynulliad ddydd Gwener

Mae sylwadau "llwfr" am wisgo burka yn "cryfhau" y rhai sy'n cyflawni troseddau casineb, yn ôl rhybudd gan Gyngor Mwslimaidd Cymru.

Dywedodd Gareth Bennett, arweinydd newydd UKIP yn y Cynulliad, fod menywod sy'n gwisgo'r burka yn "drychiolaeth o ddiwylliant cyn-ganol oesol".

Mae Cyngor Mwslimaidd Cymru'n dweud fod ei sylwadau yn hybu casineb.

Mewn cyfweliad gyda ITV Cymru ddydd Sul, dywedodd Mr Bennett fod gweld menywod yn gwisgo burka yng Nghymru yn ei wneud i deimlo'n anghyffyrddus gan ei fod yn "ddiwylliant estron".

Mynnodd fod gwneud hynny yn dangos anfodlonrwydd i integreiddio, ac fe alwodd am drafodaeth ar y mater gan ychwanegu: "Mae'n teimlo fel fy mod yn Saudi Arabia, ond yn Nhreganna, Caerdydd.

"Dyw e ddim yn deimlad pleserus i lawer ym Mhrydain, sydd yn Brydeinwyr ac yn ystyried fod ganddyn nhw werthoedd Prydeinig, i weld y trychiolaethau yma sy'n ymddangos fel eu bod yn rhan o ryw fath o ddiwylliant cyn-ganol oesol," ychwanegodd.

'Canolbwyntio afiach'

Dywedodd Dr Abdul-Azim Ahmed, Dirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Mwslimaidd Cymru, fod y sylwadau yn "llwfr" ac yn cynyddu casineb.

"Mae'r canolbwyntio afiach yma ar wisg menywod Mwslimaidd yn bryderus ac annemocrataidd," meddai. "Mae'n cryfhau troseddau casineb, yn lleihau ymhellach unrhyw ymwneud cyhoeddus gan leiafrifoedd crefyddol ac yn ymosodiad llwfr ar fenywod Mwslimaidd sy'n cael gwrthod platfform cyhoeddus gan y rhai sy'n ymosod arnyn nhw.

"Ry'n ni'n galw ar bob gwleidydd, o bob plaid, i wrthod y ffasgiaeth yma sy'n cropian i mewn i wleidyddiaeth Cymru a Phrydain."

Ond mewn datganiad fe ddywedodd Mr Bennett - sydd yn y gorffennol wedi rhoi'r bai am drafferthion sbwriel yng Nghaerdydd ar fewnfudwyr - ei fod yn glynu at ei sylwadau.

Dywedodd wrth BBC Cymru: "Os ydyn ni'n cael ein tewi yn barhaus gan leisiau lobïwyr o grwpiau lleiafrifol, yna bydd ein hawl i ryddid mynegiant yn cael ei ddinistrio'n ara bach.

"Rwy'n addo brwydro dros hawliau'r mwyafrif i fwynhau rhyddid mynegiant."

Ffynhonnell y llun, BBC news grab

'Codi proffil eu hunain'

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: "Mae'n rhaid gofyn pam fod Gareth Bennett a Boris Johnson yn ymosod ar fenywod Mwslimaidd.

"Mae'n amlwg i mi eu bod yn gwneud hyn i godi eu proffil eu hunain ac er mwyn mantais wleidyddol. Ond, er mai cymhellion hunanol sydd ganddynt, mae'r iaith y maen nhw'n ei defnyddio yn cael effaith ehangach a pheryclach - mae'n arwain at sarhau menywod Mwslimaidd ar y stryd.

"Mae'n cyfiawnhau sgyrsiau senoffobaidd ac, yn y pen draw, yn arwain at fwy o raniadau a drwgdybiaeth. Yr unig rai sy'n elwa ar hyn yw Bennett a Johnson.

"Mae'r iaith y maen nhw'n ei defnyddio yn anghyfrifol o beryglus. Mae'n hiliol. Nid dyna sut y dylai gwleidyddion etholedig mewn swyddi cyfrifol fod yn ymddwyn.

"Ni fydd Llywodraeth Cymru yn cadw'n dawel yn wyneb gwawd annymunol fel hyn. Byddwn yn dwysáu ein hymdrechion i greu cymunedau cydlynus er mwyn helpu pobl i deimlo'n ddiogel - ac i ddathlu amrywiaeth yn hytrach na'i goddef."