Prosiect treftadaeth Cwm Ogwr i dderbyn bron i £50,000
- Cyhoeddwyd
Mae prosiect sy'n adrodd stori treftadaeth lofaol Ogwr wedi derbyn £49,700 gan y Loteri Genedlaethol.
Bydd Clybiau Bechgyn a Merched Cymru (BGC Wales), gyda chefnogaeth arian gan y Loteri Genedlaethol a Datblygu Gwledig Reach, yn gweithio gyda'r gymuned leol i helpu i gadw hanes cyfnod glofaol hynafol y rhanbarth yn fyw.
Mae cynlluniau ar y gweill i greu Llwybr Treftadaeth Cwm Ogwr yn ogystal â Chanolfan Dreftadaeth arbennig.
Dywedodd Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri yng Nghymru y bydd y datblygiadau yn hwb "nid yn unig yn hwb gwych i'r gymuned leol, ond i ymwelwyr â'r ardal hefyd."
Bydd y Ganolfan Dreftadaeth wedi'i lleoli yng Nghanolfan Gymunedol BGC Nant-y-moel sydd wedi'i adnewyddu'n ddiweddar, lle caiff arteffactau lleol eu cadw a'u harddangos.
Hefyd bydd arddangosfa ddigidol yn ardal y caffi cymunedol newydd, tra bydd y safle gerllaw fu unwaith yn gartref i Ganolfan Berwyn hefyd yn gartref i arddangosfa.
'Hwb enfawr'
Mae'r Llwybr Treftadaeth am fod yn seiliedig ar y llwybr beicio presennol sy'n teithio drwy Gwm Ogwr o Barc Gwledig Bryngarw i Nant-y-moel.
Caiff byrddau gwybodaeth eu gosod ar hyd y llwybr, gan greu darlun o sut y byddai'r golygfeydd wedi edrych yn ystod cyfnod y gweithfeydd glo a dangos mannau o ddiddordeb lleol.
Bydd gwirfoddolwyr hefyd yn cynnal teithiau tywys, neu gall ymwelwyr gymryd hanes yn eu dwylo eu hunain drwy ddefnyddio ap ffôn symudol newydd sbon i'w harwain ac i ddysgu mwy am dreftadaeth yr ardal.
Dywedodd Mr Bellamy: "Bydd pobl ifanc a'r gymuned leol yn cael y cyfle i helpu i gadw atgofion a dathlu eu hanes lleol."
Ychwanegodd Aelod Cynulliad Ogwr, Huw Irranca-Davies: "Bydd yr arian hwn yn rhoi hwb o hyder enfawr i Gwm Ogwr, a bydd y cyfleoedd sy'n deillio o'r prosiect heb unrhyw amheuaeth yn cael dylanwad mawr ar y gwirfoddolwyr a'r gymuned ehangach hefyd."