Cynigion diamod prifysgolion yn 'tanseilio' system addysg
- Cyhoeddwyd
Mae'r system addysg yn cael ei "thanseilio" gan y cynnydd yn nifer y cynigion diamod sy'n cael eu cynnig gan brifysgolion, yn ôl pennaeth coleg mwyaf Cymru.
Dywedodd David Jones, pennaeth Coleg Cambria, bod tuedd i rai disgyblion sydd wedi cael cynnig o'r fath i "beidio gwneud eu gorau" am weddill eu cyrsiau safon uwch.
Yn ôl ffigyrau gan y gwasanaeth mynediad i brifysgolion, UCAS, mae yna gynnydd mawr wedi bod i nifer y cynigion diamod i ddisgyblion 18 oed.
Mae Prifysgolion Cymru yn mynnu bod cynigion o'r fath "yn ganran fach" o'r cyfanswm.
'Neges anghywir'
Mae cynnig diamod gan brifysgol yn golygu bod y darpar-fyfyriwr yn cael cynnig lle ar y cwrs o'u dewis nhw waeth beth fydd eu canlyniadau yn yr arholiadau maen nhw'n sefyll.
Dywedodd UCAS fod nifer y cynigion diamod i bobl 18 oed o Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi codi 65,930 dros y pum mlynedd diwethaf - o 2,985 yn 2013 i 67,915 yn 2018.
Mae hyn yn golygu bod bron i chwarter (23%) o ymgeiswyr wedi derbyn cynnig diamod eleni.
Ond mae 'na bryder bod cynnydd yn nifer y cynigion diamod dros y blynyddoedd diwethaf yn sgil y pwysau i ddenu myfyrwyr mewn marchnad gystadleuol iawn.
"Mae'r twf yma mewn cynigion diamod ar draws Prydain yn bryder mawr ac yn sicr mae'n mynd i gael dylanwad negyddol iawn ar safonau," meddai David Jones.
Mae 27,000 o fyfyrwyr yn astudio yng Ngholeg Cambria, sydd â lleoliadau yn Sir y Fflint, Wrecsam a Sir Ddinbych.
Ychwanegodd y pennaeth: "Os da ni'n dal i gario 'mlaen fel hyn, bydd yn tanseilio'r holl system addysgol ar draws y wlad yma - dwi ddim yn gor-ddweud.
"Dwi'n pryderu'n fawr iawn bod ni'n gyrru'r neges hollol anghywir i bobl am y ffaith mewn addysg - mae'n rhaid i chi brofi bod gynnoch chi sgiliau trwy neud arholiad neu ryw asesiad."
Cafodd Lleucu Bebb, 18 oed o Gaernarfon, gynnig diamod gan Brifysgol Aberystwyth ar ôl gwneud arholiadau ysgoloriaeth.
"Rodd 'na llai o bwysau ond o'n i'n meddwl bod o'n beth da achos oedd o'n golygu bo' fi ddim yn gorfod poeni'n ormodol a bod 'na ddim gormod o bwysau," meddai.
"Ro'n i dal i weithio'n galed achos o'n i eisiau cael graddau da i blesio fy hun fel bo' fi'n gallu bod yn falch ohonyn nhw yn y pendraw."
Mae Emily Pemberton, 18 oed o Gaerdydd, yn meddwl bod cynigion diamod yn syniad da ar y cyfan ond bod anfanteision hefyd.
"O ran fy mhrofiad fi a rhai o fy ffrindiau, mae cwpl sydd wedi cael cynnig diamod wedi gollwng pwnc y diwrnod cyn yr arholiad, achos maen nhw'n meddwl 'ti'n gwbod be' - sai wedi gwneud digon o adolygu, ond 'sdim angen i fi gael y gradd'," meddai.
"Ma' lot o brifysgolion yn notorious am y cynigion diamod a falle ei fod yn fater o ddweud wrth brifysgol dyma eich limit chi - felly defnyddiwch nhw'n ddoeth."
'Canran fach'
Trwy geisiadau Rhyddid Gwybodaeth fe ofynnodd BBC Cymru i holl brifysgolion Cymru faint o gynigion diamod gafodd israddedigion o unrhyw oed eu cynnig.
Ar gyfer cyrsiau'r flwyddyn academaidd 2017/18, dywedodd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant bod cynigion diamod i fyfyrwyr ar gyrsiau israddedig yn 26% - ond y ffigwr ar gyfer holl gyrsiau'r brifysgol oedd 53.4%.
Roedd Prifysgol Caerdydd wedi gwneud 6,504 o gynigion diamod yn 2017/18 - sy'n 26% o'r cyfanswm ar gyfer y flwyddyn honno.
Dywedodd y brifysgol bod cynigion diamod ond yn cael eu rhoi i fyfyrwyr oedd eisoes wedi derbyn eu canlyniadau arholiad.
Yn ôl Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, roedd y 21% o'u cynigion nhw yn 2017 yn ddiamod a hynny yn sgil cynllun yn yr ysgol gelf a dylunio ac addysg.
Dywedodd Prifysgol Bangor bod 6.4% o'u cynigion yn 2017-18 yn ddiamod - 10% oedd cyfanswm Prifysgol Abertawe, tra bod y 9.3% o gynigion diamod gan Brifysgol Aberystwyth yn cynnwys rhai oedd wedi llwyddo mewn arholiadau ysgoloriaeth.
Yn ystod 2017-18 roedd 20% o'r cynigion gafodd eu rhoi gan Brifysgol Glyndŵr Wrecsam yn ddiamod. Nid oedd Prifysgol De Cymru am ddarparu ffigyrau gan ddweud eu bod nhw'n gweithredu mewn "amgylchedd cystadleuol" a'u bod am ddiogelu gwybodaeth oedd yn cael ei ystyried yn "sensitif".
Dywedodd y corff Prifysgolion Cymru bod sefydliadau'n defnyddio ystod o ffactorau a data wrth ystyried gwneud cynnig neu beidio.
"Tra bod nifer y myfyrwyr wedi cynyddu, mae nifer y cynigion diamod yn parhau yn ganran fach o'r holl geisiadau," meddai'r datganiad.
"Mae'n bwysig cofio bod pobl sy'n mynd i brifysgol yn dod o ystod amrywiol o gefndiroedd gydag amrywiaeth o gymwysterau, ac mae prifysgolion yng Nghymru'n parhau i fuddsoddi'n helaeth mewn sicrhau bod pob myfyriwr, nid rhai 18 oed sydd newydd adael yr ysgol yn unig, yn cael mynediad i addysg uwch a sgiliau o safon uchel."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Awst 2018
- Cyhoeddwyd18 Awst 2017
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2018