'Dylai pob amgueddfa yng Nghymru fod am ddim i ymweld'
- Cyhoeddwyd
Dylai pobl gael mynediad am ddim i bob amgueddfa yn y wlad, yn ôl Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru.
Mae toriadau ar wariant cyhoeddus wedi ei gwneud hi'n "gynyddol anodd" i amgueddfeydd, meddai llywydd yr elusen Victoria Rogers.
Cafodd polisi di-dâl Amgueddfa Cymru ar draws saith o'u safleoedd ei gyflwyno yn ôl yn 2001.
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Dafydd Elis-Thomas, y byddai'r llywodraeth yn parhau o blaid cadw'r rheiny'n ddi-dâl am eu bod nhw'n "sefydliadau cenedlaethol".
'Dweud stori Cymru'
Fodd bynnag, mae nifer o amgueddfeydd llai neu'n fwy lleol yng Nghymru'n cael eu rhedeg gan gyrff eraill, fel awdurdodau lleol neu grwpiau cymunedol.
Dywedodd Ms Rogers y dylai pob amgueddfa yng Nghymru, mewn byd delfrydol, fod am ddim.
"Dyna'r lein mae'r ffederasiwn yn teimlo sy'n hynod o bwysig sef y dylai pobl gael mynediad am ddim i'w treftadaeth a'u diwylliant," meddai.
"Beth rydym yn ei weld ar hyn o bryd yw effeithiau toriadau San Steffan ar Lywodraeth Cymru ac yna'r cynghorau sy'n golygu bod pethau'n mynd yn gynyddol anoddach i bob amgueddfa."
Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas fod Llywodraeth Cymru'n cynnal y polisi o fynediad am ddim i safleoedd sydd o bwysigrwydd cenedlaethol.
"Maen nhw mewn sefyllfa wahanol yn hynny o beth i'r amgueddfeydd lleol," meddai, gan ychwanegu bod angen "datblygu gwell cydweithrediad rhwng yr amgueddfeydd".
Ond mynnodd nad yr ateb oedd codi tâl mynediad ar yr amgueddfeydd hynny sydd ar hyn o bryd am ddim - fel Sain Ffagan - am y byddai hynny'n effeithio ar nifer yr ymwelwyr.
"Os mai diben yr amgueddfa ydi dweud stori Cymru wrth bobl yn y ffordd fwyaf diddorol a mwyaf hawdd i'w deall, yna mae gwneud hynny heb godi arnyn nhw, mae o'n rhan mewn ffordd o'r gyfundrefn addysg," meddai.
Y saith safle di-dâl sydd gan Amgueddfa Cymru yw'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, Pwll Mawr ym Mlaenafon, yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis, yr Amgueddfa Wlân ger Castellnewydd Emlyn, a'r Amgueddfa Rufeinig yng Nghaerllion.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Medi 2017
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2017