Pryder Cymry Gibraltar am ddyfodol y penrhyn wedi Brexit
- Cyhoeddwyd
'Pysgod a Sglodion Prydeinig', Jac yr Undeb wedi ei haddurno gyda lluniau o Harry a Meghan, blychau post a bocsys ffôn coch.
Croeso i Gibraltar - rhan o'r Deyrnas Unedig ger rhanbarth Andalucia yn ne Sbaen.
Mae'n diriogaeth sydd wedi bod mewn dwylo Prydeinig ers dros 300 mlynedd.
"Mae Gibraltariaid yn unigryw iawn. Maen nhw'n Brydeinig iawn. Mewn gwirionedd, mae llawer yn dweud bod nhw'n fwy Prydeinig na llawer o'r tir mawr. Maen nhw'n ei deimlo'n fwy." Dyna eiriau un sy'n byw yno ar ôl symud o Gymru.
Yn enwog fel cartref i oddeutu 300 o fwncïod macaque Barbary, mae 'Y Graig' hefyd yn gartref i tua 30,000 o bobl, gan gynnwys Eleri Surrey, sy'n wreiddiol o Gwm Nedd.
Mae hi wedi byw yn Gibraltar ers 1989, ac roedd yn un o'r bron 96% o bobl yno a bleidleisiodd yn erbyn Brexit yn y refferendwm ddwy flynedd yn ôl.
Roedd y profiad o gau'r ffin gyda Sbaen rhwng 1969 a 1985 wedi dylanwadu'n fawr ar sicrhau'r mwyafrif anferthol hynny.
Ail-agorwyd y ffin fel rhan o drafodaethau Sbaen i ymuno â'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd fel yr oedd hi ar y pryd, felly mewn sawl ffordd mae pobl Gibraltar yn gweld Brwsel fel wrthglawdd yn erbyn ei chymdogion, sy'n parhau i hawlio sofraniaeth dros y diriogaeth.
Felly, mae rhai ar y penrhyn yn poeni y gallai ymadawiad y DU a Gibraltar o'r Undeb Ewropeaidd arwain at argyfwng dirfodol.
Angen mwy na geiriau
Gyda thua 99% o bobl Gibraltar wedi pleidleisio yn 2002 yn erbyn rheolaeth ar y cyd rhwng y DU a Sbaen, ydyn nhw'n poeni am y dyfodol ar ôl Brexit?
"Ydyn, i raddau," meddai Eleri.
"Efallai nid ydyn ni'n poeni cymaint ag oedden ni'n dilyn y bleidlais Brexit. Ond rydyn ni mor agos nawr. Dim ond ychydig dros chwe mis cyn Brexit.
"Mae'n mynd yn dynn ac mae angen gwneud penderfyniadau, mae angen cymryd camau, ac mae angen ychydig yn fwy arnom na geiriau o Loegr yn dweud wrthym 'ie, byddwn yn gofalu amdanoch chi'. Profwch hynny," ychwanegodd.
Yn wreiddiol o Bont-y-pŵl mae William George, sy'n 50 oed, yn un o'r 10,000 o bobl sy'n byw ar dir mawr Sbaen, sy'n teithio'n ddyddiol i weithio yn Gibraltar.
Er ei fod ef a'i deulu wedi byw i fyny arfordir Sbaen yn nhref Estepona ers tua degawd, mae'n gwneud y daith 45 munud i weithio i gwmni recriwtio ar 'Y Graig'.
"Yn y dyddiau cynnar, roedd yna giwiau o bryd i'w gilydd. Nid yw wedi bod fel hynny ers peth amser. Maent wedi rhoi system newydd yno," meddai.
Yn wahanol i'r DU, nid yw Gibraltar yn rhan o undeb dollau'r Undeb Ewropeaidd felly mae swyddogion yn atal lorïau ac ati ar y ffin â Sbaen ac mae'r awdurdodau ym Madrid wedi cau'r ffin o bryd i'w gilydd.
Testun 'pryder mawr'
Mae'r hyn fydd yn digwydd i'r ffin yn dilyn Brexit o bryder mawr i drigolion ar y naill ochr i'r llall.
"Mae y gweithlu hwnnw sy'n dod o Sbaen a'r trefi lleol ar Gibraltar ac mae'r llefydd hynny hefyd angen y gwaith yn Gibraltar," meddai William.
"Felly, rwy'n credu bod nhw'n bendant yn dymuno cyrraedd cytundeb. Fe fyddai'n gwneud lles i'r ddwy ochr."
Rownd y gornel o swyddfa William mae prif Sgwâr Casemates, lle rydw i'n dod ar draws llu o dwristiaid sydd newydd lanio o'r cwch am y dydd.
Mae Phil Brace a'i deulu, sy'n dod o'r Pîl yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, ymysg y dorf ar ôl iddyn nhw deithio am ddeuddydd o Southampton.
"Mae'n braf cael yr ardal hon y tu allan i'r DU, sy'n perthyn i ni, ond rwy'n credu bod y Gibraltariaid yn gweld eu hunan fel bod yn rhan o'r DU ac nid yn Sbaeneg" meddai.
"Rwy'n credu ei bod hi'n braf i ni gefnogi hynny ac mewn gwirionedd, i ddal ati."
Ond nid yw aelod arall o'r teulu mor sicr.
"Mae'r bobl am aros yn Brydeinig. Ond mae'n ymddangos yn rhyfedd iawn oherwydd dim ond ar draws y ffordd mae Sbaen, ac mae'n ymddangos yn rhyfedd, ond dyna ni. "
Mae beth sy'n ymddangos yn od i rai yn ffordd o fyw i bobl Gibraltar.
A beth bynnag ddigwyddith gyda Brexit, maen nhw'n benderfynol y bydd hynny'n parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2018