Awtistiaeth yn 'dabŵ' ymhlith rhai lleiafrifoedd ethnig
- Cyhoeddwyd
Mae yna alw am fynd i'r afael ag agweddau negyddol at awtistiaeth o fewn rhai cymunedau lleiafrifoedd ethnig yn sgil pryder bod amharodrwydd i drafod y mater yn agored yn atal teuluoedd rhag gofyn am gefnogaeth.
Yn ôl sylfaenydd mudiad sy'n cefnogi teuluoedd Tsieineaidd yn Abertawe, mae rhai'n gweld y cyflwr bron fel salwch heintus.
Ac mae'r corff Cyngor Hil Cymru (RCC) yn dweud bod teuluoedd yn cadw'n dawel am berthynas awtistig, gan ofni y gall effeithio ar eu siawns o briodi.
Yn ôl amcangyfrifon y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, mae yna 34,000 o bobl awtistig yng Nghymru o bob cefndir, ond mae yna gred bod llawer mwy o blith cymunedau lleiafrifol.
Mae awtistiaeth yn gyflwr nad oes modd ei drin ac mae'n effeithio ar y ffordd y mae unigolyn yn ymwneud â'r byd o'i gwmpas.
"Mae'n well gan lawer o deuluoedd â phlant awtistig beidio trafod y peth yn gyhoeddus oherwydd mae'n effeithio ar y siawns o briodi'n dda," meddai prif weithredwr RCC, Uzo Iwobi.
"Mae pobl yn eich barnu ac mae rhywrai yn aml yn pigo ar y plant... mae'n anodd iawn, iawn i gael teuluoedd... sy'n fodlon trafod y peth yn agored."
Dywedodd Ms Iwobi bod rhaid annog rhieni a mudiadau lleiafrifoedd ethnig llawr gwlad i drafod y mater, fel bod teuluoedd yn cael yr hyder i "chwilio am yr help maen nhw ei ddirfawr angen".
Mae Hazel Lim - sylfaenydd Grŵp Cefnogaeth Awtistiaeth Tsieineaidd, sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth yn Abertawe - yn fam i blentyn awtistig ac mae wedi astudio'r cyflwr ar gyfer gradd uwch.
"Yn y diwylliant Tsieineaidd, mae awtistiaeth yn dabŵ. Does neb eisiau ei grybwyll. Mae fel salwch," meddai.
"Fe allai ymledu, dim ond wrth ddweud y geiriau. Maen nhw'n teimlo ei fod yn heintus."
Gan fod yna ddiwylliant o weld y cyflwr mewn ffordd negyddol yn China, dywedodd fod cael diagnosis fod plentyn yn awtistig ar ôl cyrraedd y DU yn "teimlo fel diwedd y byd" iddyn nhw.
Ychwanegodd Ms Lim bod rhwystrau ieithyddol yn atal teuluoedd rhag "gofyn am help ac i gyfieithu pethau iddyn nhw oherwydd maen nhw'n teimlo eu bod mewn sefyllfa fregus".
Trafferthion ieithyddol
Mae RCC yn cefnogi'r grŵp yn Abertawe, ac yn gobeithio cynnal cyrsiau codi ymwybyddiaeth am awtistiaeth ymhlith pobl o Bortiwgal yn Wrecsam a'r gymuned Somali yng Nghaerdydd.
Yn ôl Meleri Thomas o Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru mae "trafferthion ieithyddol a diwylliannol" yn cymhlethu'r sefyllfa.
"Mae rhai o'r teuluoedd rydym wedi siarad â nhw hefyd yn teimlo bod diffyg ymwybyddiaeth ynghylch awtistiaeth o fewn eu cymunedau eu hunain yn gwaethygu'r trafferthion hyn," meddai.
Mae'r gymdeithas yn ymgyrchu dros sefydlu deddf yng Nghymru a fyddai'n cynnwys hyfforddiant awtistiaeth orfodol ar gyfer pobl broffesiynol, hwyluso'r mynediad i wasanaethau diagnostig a gwell ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn ariannu gwaith y Tîm Datblygu Anhwylderau Sbectrwm Awtistiaeth Genedlaethol, sydd wedi "datblygu ystod eang o adnoddau", a bod modd i gleifion y GIG fanteisio ar wasanaethau cyfieithu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2018