Cymru'n gostwng un safle ar restr detholion newydd FIFA

  • Cyhoeddwyd
CymruFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae tîm pêl-droed Cymru wedi gostwng un safle yn rhestr detholion newydd FIFA - y cyntaf i gael ei chyhoeddi ers Cwpan y Byd.

Dyma'r rhestr detholion cyntaf i gael ei rhyddhau ers i FIFA gyhoeddi y byddan nhw'n newid y system maen nhw'n ei ddefnyddio o hyn ymlaen.

Mae tîm Ryan Giggs wedi gostwng i'r 19eg safle, ond maen nhw'n uwch na gwledydd fel Peru a'r Eidal.

Ffrainc sydd bellach yn ddetholion cyntaf, gyda Gwlad Belg yn ail a Brasil yn drydydd - a'r Almaen yn cwympo o'r brif i'r 15fed safle ar ôl Cwpan y Byd sâl.

Mae Lloegr (6ed), Gogledd Iwerddon (27ain), Gweriniaeth Iwerddon (29ain) a'r Alban (40fed) i gyd hefyd wedi codi.

Ym mis Mehefin fe wnaeth tîm merched Cymru godi i'r 29ain safle ar eu rhestr hwythau - eu safle uchaf erioed.