Adfer hen wasanaeth fferi Afon Tywi wedi degawdau
- Cyhoeddwyd

Mae'r gwasanaeth yn cychwyn am 16:00 ddydd Gwener
Am y tro cyntaf ers y 1950au fe fydd pobl yn gallu dal fferi i deithio ar draws aber Afon Tywi yn Sir Gaerfyrddin.
Bydd y daith gyntaf i deithwyr rhwng Glan-y-fferi a Llansteffan ar y llanw am 16:00.
Does dim angen glanfa ar gyfer y cwch tir a môr, sydd ag olwynion arbennig er mwyn ei yrru at y dŵr pan fo'r llanw yn isel.
Mae'r ddau bentref lai na milltir o'i gilydd ar draws yr aber ond mae'r daith mewn car yn 16 milltir o hyd.
Bydd y cwmni sydd wedi ailsefydlu'r gwasanaeth fferi hanesyddol, Fferïau Bae Caerfyrddin, yn cynnig teithiau "hamddenol" bob 15 munud, gan ddibynnu ar y tywydd.

Mae'r olwynion yn gwneud hi'n bosib i yrru'r cwch at y dŵr pan fo'r llanw yn isel
Mae'r fferi'n cludo hyd at 10 o deithwyr.
Cafodd y gwasanaeth ei ddatblygu ar ôl derbyn £300,000 gan Gronfa Cymunedau'r Arfordir.
Cafodd y cwch ei ail-adeiladu gan gwmni o Solfach a'i brofi ddechrau'r haf ym Mhorth Glais ger Tyddewi.
Mae ganddo ddwy injan yn debyg i gwch modur ac mae'n teithio ar gyflymder o 4 mya ar y tir.

Croesi aber y Tywi yn 1905
Cwch hwylio oedd yn arfer cael ei ddefnyddio cyn i'r hen wasanaeth ddod i ben yn y 1950au.
Yn ystod y 19eg Ganrif a dechrau'r 20fed Ganrif roedd y croesiad yn boblogaidd gyda thwristiaid o dde Cymru, yn enwedig yn ystod pythefnos gwyliau'r glowyr.
Bryd hynny, roedd ymwelwyr yn arfer teithio i Lan-y-fferi ar drên a chroesi'r aber i Lansteffan lle roedd yna lanfa bren.
Roedd codi glanfa newydd yn amhosib, yn ôl Rob Bamforth o gwmni Fferïau Bae Caerfyrddin, oherwydd byddai gofyn iddi fod yn 300 troedfedd (91m) o hyd, a dylunio cwch priodol oedd yr ateb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd7 Awst 2017
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2017