Apêl am roddwr mêr esgyrn i fachgen chwech oed

  • Cyhoeddwyd
Marley yn yr ysbytyFfynhonnell y llun, Marrow For Marley
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Marley Nicholls y diagnosis ym mis Gorffennaf

Mae teulu bachgen chwech oed o ardal Casnewydd yn apelio am roddwr er mwyn iddo gallu cael y driniaeth sydd ei angen arno i oroesi.

Dywedodd mam Marley Nicholls eu bod "mewn sioc" pan glywson nhw am ei ddiagnosis o anaemia aplastig, afiechyd sy'n atal y corff rhag cynhyrchu digon o gelloedd gwaed.

Mae angen trawsblaniad mêr esgyrn arno, a'r gobaith oedd y byddai ei frawd bach George yn addas.

Ond gyda hynny ddim yn bosib, mae ei fam Shaney Truman yn dweud bod angen canfod rhywun arall "ar frys".

Ddydd Sul, trefnodd y teulu ddigwyddiad yng nghanolfan Beauford yng Nghasnewydd er mwyn ceisio dod hyd i roddwr addas, a chafodd 336 o roddwyr newydd eu cofrestru.

Ffynhonnell y llun, Marrow for Marley
Disgrifiad o’r llun,

Marley a'i frawd George yn chwarae yn y môr

"Dyw e bron byth yn sâl, felly pan gododd ei dymheredd a dechreuodd e deimlo'n flinedig roedden ni'n poeni," meddai.

"Mae e'n enaid hyfryd, cyfeillgar, hapus - wastad yn dod â bywyd i'r parti - felly mae'n rhaid i ni obeithio nawr ein bod ni'n canfod rhywun addas.

"Mae e dal yn fachgen chwech oed sydd angen ei fam a'i dad, ac mae'r ddau ohonom ni'n ceisio aros yn gryf a gwneud y pethau dydd i ddydd."

Does neb ar y gofrestr genedlaethol yn gymwys ar gyfer y trawsblaniad gyda Marley, ac felly mae Ms Truman a'i phartner John yn gobeithio y bydd mwy o bobl yn cofrestru er mwyn ceisio dod o hyd i rywun all "achub ei fywyd".

Disgrifiad,

Sarah Rookes yn esbonio pam iddi hi fynd i'r digwyddiad yng Nghasnewydd i gael ei phrofi

Ar hyn o bryd, mae tua 700,000 o roddwyr mêr esgyrn wedi'u cofrestru yn y DU, gyda tua 20,000 yn dod o Gymru.

Mae elusen Anthony Nolan yn dweud bod tua 16% ohonyn nhw'n ddynion ifanc, ond eu bod nhw'n darparu dros hanner y trawsblaniadau.

Mae'n "hanfodol" felly, meddai'r elusen, fod mwy o ddynion ifanc yn cofrestru er mwyn cynyddu'r siawns o ganfod person cymwys.

Trefnodd teulu Marley y digwyddiad yng Nghasnewydd ddydd Sul er mwyn profi pobl, yn y gobaith o "wyrth".

"Os gallwn ni achub bywyd un person drwy annog mwy o bobl i ymuno â'r gofrestr, wedyn fe fyddwn ni wedi gwneud ein gwaith," meddai Ms Truman.

Dywedodd rheolwr rhanbarthol elusen Anthony Nolan, sy'n canolbwyntio ar anhwylderau'r gwaed, fod 336 o bobl wedi cofrestri i fod yn rhoddwyr mer esgyrn yn y digwyddiad ddydd Sul.