Beiciwr modur yn marw wedi gwrthdrawiad ar yr A543

  • Cyhoeddwyd
A543Ffynhonnell y llun, Google

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ar yr A543 ger Bylchau, Sir Ddinbych ddydd Sadwrn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i safle'r gwrthdrawiad - rhwng beic modur Honda CBR 600 a Peugeot 206 arian - am 15:45.

Cadarnhaodd yr heddlu fod y beiciwr modur wedi marw yn y fan a'r lle.

Dywedodd Sarsiant Stephen Richards: "Rydym yn apelio ar unrhyw a welodd y gwrthdrawiad neu oedd yn teithio ar hyd yr A543 cyn y digwyddiad i gysylltu â ni."

Nid yw'r beiciwr modur yn lleol i'r ardal, ac mae ei deulu bellach yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.