Dau dan amheuaeth o geisio llofruddio wedi gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
Heol Pentre Bach
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Heol Pentre Bach ar gau ddydd Gwener yn dilyn y gwrthdrawiad

Mae dau berson wedi cael eu harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio yn dilyn gwrthdrawiad yn Abertawe.

Cafodd dyn ei anafu'n ddifrifol wedi iddo gael ei daro gan gar ar Heol Pentre Bach yng Ngorseinon brynhawn Gwener.

Mae'n parhau mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Mae dynes 41 oed a dyn 32 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ac o yrru dan ddylanwad cyffuriau.

Cafodd y ddynes hefyd ei harestio dan amheuaeth o beidio stopio yn dilyn gwrthdrawiad, ac achosi anafiadau difrifol trwy yrru'n beryglus.

Mae'r ddau wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod Heddlu De Cymru'n ymchwilio i'r digwyddiad, ac maen nhw'n annog tystion i gysylltu â'r llu.