Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ethol Llywydd newydd

  • Cyhoeddwyd
Kieran O'ConnorFfynhonnell y llun, CDBC
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Kieran O'Connor yn cymryd lle David Griffiths ar ôl i'w gyfnod o ddwy flynedd yn rôl ddod i ben

Mae Cymdeithas Bêl-Droed Cymru wedi cadarnhau fod Kieran O'Connor wedi cael ei ethol fel y llywydd newydd.

Fe fydd Mr O'Connor yn olynu David Griffiths ar ôl i'w gyfnod o ddwy flynedd yn y rôl ddod i ben, ac mae Mr Griffiths wedi'i ethol yn is-lywydd oes gyda'r Gymdeithas.

Mae Mr O'Connor, sydd o Bontypridd, wedi gweithio'n helaeth gyda chynghreiriau pêl-droed y de ers y 1970au ac roedd hefyd yn arfer dyfarnu.

Ers 2015 mae Mr O'Connor wedi bod yn rhan o Bwyllgor Trwyddedu Clybiau gydag UEFA, ac mae wedi bod yn aelod o Bwyllgor Rheoli Cynghrair Cymru ers 1985, ble mae'n drysorydd ac yn is-ysgrifennydd.