Ymgyrch Pallial: Achos gweithiwr gofal yn cael ei stopio
- Cyhoeddwyd
Mae'r achos yn erbyn cyn weithiwr cartref gofal sydd wedi ei gyhuddo o 13 o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn dau fachgen wedi cael ei stopio.
Mae Huw Meurig Jones, 69 oed ac o Hen Golwyn yn Sir Conwy, wedi gwadu'r cyhuddiadau sy'n dyddio o'r cyfnod rhwng Mehefin 1975 a Hydref 1976.
Roedd yn gweithio fel dirprwy arolygydd yng Nghanolfan Asesu Little Acton yn Wrecsam ar y pryd.
Mae'r Barnwr Rhys Rowlands wedi rhyddhau'r rheithgor yn Llys Y Goron Yr Wyddgrug o'u dyletswyddau, a gohirio'r achos.
Bydd achos newydd yn cychwyn ar 3 Hydref.
Mae Mr Jones wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.
Cafodd ei arestio gan dditectifs Ymgyrch Pallial - ymchwiliad yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol i gamdriniaeth yn y gorffennol o fewn y system gofal yng ngogledd Cymru.