Carcharu gyrrwr lori meddw wedi gwrthdrawiad Ceredigion

  • Cyhoeddwyd
LoriFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys

Mae gyrrwr lori wedi ei garcharu am yrru ei gerbyd 44 tunnell gyda thair gwaith y lefel gyfreithiol o alcohol yn ei waed.

Fe wnaeth y gyrrwr, Ioan Sandu, sy'n 48 oed ac yn ddinesydd tramor, gyfaddef yfed a gyrru ar ôl cael ei arestio yn Llanddewi Brefi, Ceredigion.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod y lori'n gyrru'n ddiofal ar 20 Awst, cyn gwrthdaro â char a gwrychoedd ac atal ffordd am rai oriau.

Dangosodd prawf bod 105 microgram o alcohol yn ei anadl. Y terfyn cyfreithiol yw 35 microgram.

Yn ogystal â'i garcharu, cafodd Sandu ei wahardd rhag gyrru am 28 mis.