Eich enwau anwes chi ar eich trefi
- Cyhoeddwyd
Roedd dipyn o ymateb i'n herthygl ddiweddar Beth ydych chi'n galw eich tref chi?, a oedd yn edrych ar yr arferiad o roi enwau 'anwes' neu enwau byrrach ar drefi, yn hytrach na defnyddio'r enwau swyddogol.
Cawsom enghreifftiau gennych chi ar e-bost, ar Facebook ac ar Twitter:
Atgoffodd Elfed Morgan ni am enw anwes sydd mae'n siŵr yn gyfarwydd i nifer ohonom ni - Llanbêr am Llanberis.
Nid nepell o Lanbêr, mae Llanbabo neu Llanbabs...
Lle?
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Wrth gwrs!
Cysylltodd Arthur Owen i ddweud yr un peth - mai Llanbabo ydy llysenw y pentref (neu 'pentra') i'w wahaniaethu o'r ardal ehangach sydd yn cynnwys Clwt y Bont a Gallt y Foel.
I fyny'r ffordd mae Pessawaen, yn ôl Sion Rees Williams - neu Penisarwaun. Ond fel nododd Sion, mae yna'n aml ansicrwydd wedi bod ynglŷn â sillafiad y pentref - felly efallai mai ei alw'n Pessawaen sydd orau?!

Mae dipyn o leoedd ar Ynys Môn sydd ag enwau anwes. Soniodd Sian Jones mai Bod-ed yw'r enw lleol am Bodedern, a Lla'ch-medd yw Llannerchymedd, ac wrth gwrs, Berffro am Aberffraw.
Anfonodd Clare e-bost atom ni yn sôn am Berffro hefyd - ac yn benodol yn cyfeirio ar deisen Berffro, dolen allanol - bisged draddodiadol o'r ardal, sydd siâp cragen fylchog.

Soniodd Elis Jones am enwau anwes Trefeglwys ym Mhowys, a Bryneglwys yn Sir Ddinbych. Trefeg a Bryneg yw'r enwau anwes arnyn nhw - mae'r elfen 'eglwys' yn cael ei golli yn y ddau enw. Tybed beth yw arwyddocâd hyn?
Yn aml, mae enwau sy'n dechrau â Llan yn cael eu cyfeirio atyn nhw fel Llan - ond fel dywedodd Elis, Lani yw Llanidloes iddo ef.
Ac nid Aber mae Abererch ger Pwllheli yn cael ei alw, meddai Caroline:
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Yn ôl Steff Rees o Bontyberem, mae Meinciau yng Nghwm Gwendraeth yn cael ei alw'n Mince ('mink-ke') ar lafar.
Mae Adam Jones yn galw Glanaman a Brynaman yn Glaman a Braman. Yn amlwg, does dim amser i ynganu pob un sill.
Mae Lowri Williams yn dod o Donyrefail ac yn cyfeirio ato fel Ton. Tybed oes sefyllfa debyg gyda phentrefi Tonypandy a Ton Pentre? Efallai byddai hynny'n gwneud pethau'n gymhleth...
A druan o Landysul - Llandismal mae Mathew Rees yn ei alw. Ddim cweit yn enw 'anwes' efallai...