Beth ydych chi'n galw eich tref chi?
- Cyhoeddwyd
Mae cyfrif Twitter @EinCymraeg wedi codi pwnc diddorol: Beth ydy'r enwau 'anwes' rydych chi'n eu rhoi ar leoedd yng Nghymru?, dolen allanol
Mae'n crybwyll rhai o'r rhai sydd yn gyfarwydd i nifer ohonom, fel Pesda am Bethesda a Borth am Porthaethwy. Efallai fod rhai yn fwy anghyfarwydd i bobl sydd ddim yn lleol, fel Doddelan (Dolwyddelan), Syswallt (Croesoswallt).

Mae nifer o awgrymiadau wedi cael eu cynnig yn barod:
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Diddorol mai Y Bont yw'r enw ar dref Pontarddulais (y bont bwysicaf ohonyn nhw i gyd?!)
Wrth gwrs, mae nifer yn cyfeirio at dref Pontypridd fel 'Ponty', ond mae pobl Pontardawe yn cyfeirio at eu tref nhw fel Ponty hefyd, felly efallai fod trigolion Pontarddulais wedi ei deall hi.

Mae'r wlad yn llawn trefi sydd yn dechrau ag Aber-, felly ai Aberystwyth ydy 'Aber' i bawb? A beth am yr holl Llans?
Weithiau mai rhai fersiynau byr rhai lleoedd yn fwy cyfarwydd na'r fersiynau 'swyddogol', fel Tydraeth (Trefdraeth sydd ar y map) a Bermo (neu Abermaw).
Felly beth ydy'r enw anwes neu fyr rydych chi'n ei roi ar eich tref neu bentref chi?
Cysylltwch â cymrufyw@bbc.co.uk neu lenwi'r ffurflen isod: