Ad-drefnu iechyd: Nifer yn anghytuno

  • Cyhoeddwyd
Ysbytai Llwynhelyg, Glangwili a Thywysog Philip
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r opsiynau'n cynnig newidiadau i ysbytai Llwynhelyg, Glangwili a Thywysog Philip

Dywed Bwrdd Iechyd Hywel Dda fod yna lefel uchel o anghytundeb wedi ei fynegi mewn ymgynghoriad ynglŷn ag awgrymiadau ad-drefnu - awgrymiadau sy'n cynnwys adeiladu ysbyty newydd i'r gorllewin o Gaerfyrddin.

Mae'r Bwrdd, sydd o'r farn nad yw'r drefn bresennol yn gynaliadwy, newydd gwblhau ymgynghoriad 12 wythnos.

Roedd awgrymiadau'r Bwrdd yn cynnwys opsiynau o gau neu symud gwasanaethau o ysbytai Glangwili (Caerfyrddin), Tywysog Philip (Llanelli) a Llwynhelyg (Hwlffordd).

Does dim cynlluniau i newid statws Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.

Dywed yr adroddiad annibynnol: "Roedd yna lefel uchel o anghytuno dros y lleoliad arfaethedig ar gyfer ysbyty gofal brys ac argyfwng newydd.

"Roedd yr adborth yn amlygu dadleuon cystadleuol dros adeiladu'r ysbyty newydd ger Caerfyrddin, oherwydd dwysedd poblogaeth y dref ei hun ac oherwydd bod y lleoliad yn ganolog rhwng Hwlffordd a Llanelli; ac ymhellach i'r gorllewin o ystyried bod mynediad o'r lleoliadau hyn eisoes yn fater pwysig cydnabyddedig."

Dywed y Bwrdd eu bod wedi derbyn pum deiseb gyda 51,000 llofnod a bod dros 4,000 wedi mynychu cyfarfodydd yn trafod yr argymhellion.

Yn ôl llefarydd ar ran y Bwrdd roedd nifer wedi mynegi barn wahanol i'r opsiynau oedd yn cael eu cynnig - y mwyafrif o'r sylwadau yn cynnig cadw neu wella'r gwasanaeth sy'n cael ei gynnig gan Ysbyty Llwynhelyg Hwlffordd.

Mae Hywel Dda yn gyfrifol am wasanaethau iechyd Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion - tua 385,000 o bobl.

Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Steve Moore: "Trwy gydol y broses hon, rydym wedi ymrwymo i fod mor agored a chynhwysol â phosibl, ac wedi ymdrechu i fynd y tu hwnt i'r disgwyliadau o ran ymgysylltu'n barhaus gan mai dyma'r peth iawn i'w wneud, ac oherwydd ein bod wedi dysgu cymaint trwy drafodaethau, syniadau newydd a heriau."

Bydd y Bwrdd yn trafod yr ymateb i'r ymgynghoriad ar 26 Medi.