Vaughan Gething: 'Cefnogwch ymgeisydd benywaidd'

  • Cyhoeddwyd
Vaughan Gething
Disgrifiad o’r llun,

Mae Vaughan Gething wedi sicrhau pump o enwebiadau

Mae un o'r ymgeiswyr i fod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru wedi gofyn wrth gydweithwyr i gefnogi ymgeisydd benywaidd, yn hytrach nag ychwanegu eu henwau i'w ymgyrch yntau.

Dywed Vaughan Gething na fyddai'n briodol i gael cystadleuaeth rhwng ddau ddyn yn unig - sef ef ei hun a Mark Drakeford.

Mae Eluned Morgan wedi cyhoeddi bwriad i ymgeisio am yr arweinyddiaeth ond mae eto i gael y gefnogaeth angenrheidiol gan ACau eraill.

Dywedodd Mr Gething: "Mae yna dal amser - a'r niferoedd - i gael yr ymgyrch y mae Llafur Cymru ei hangen."

Mae gofyn i'r ymgeiswyr gael eu henwebu gan bump o'u cyd-aelodau Llafur.

Hyd yn hyn mae Mr Drakeford wedi cael 12 o enwebiadau, ac mae Mr Gething wedi sicrhau pump.

Mae Alun Davies a Huw Irranca-Davies hefyd wedi cyhoeddi bwriad i ymgeisio ond dydyn nhw heb sicrhau enwebiad eto.

'Eithriadol o dalentog'

Dywedodd Mr Gething ei fod yn "teimlo'n wylaidd" oherwydd y gefnogaeth iddo hyd yma ac yn falch o fod wedi sicrhau digon o enwebiadau i sicrhau lle yn y ras am yr arweinyddiaeth.

Ond ychwanegodd ei fod "heddiw, yn anarferol, efallai, yn galw'n gyhoeddus ar unrhyw gyd-aelodau sy'n ystyried fy enwebu i beidio gwneud hynny".

"Ni all fod yn iawn i'r etholiad yma fod rhwng dau ddyn, yn enwedig pan fo Llafur Cymru yn y Cynulliad â grŵp o ACau benywaidd eithriadol o dalentog."

"Mae'r holl ymgeiswyr posib wedi gwneud cyfraniadau cyffrous, credadwy a gwerthfawr - mae pob un â rhan i'w chwarae yn y ddadl sydd o'n blaenau.

"Ond rwy'n credu'n ddiffuant y byddai'r ymgyrch yn dlotach pe bai'r ymgeiswyr ond yn cynrychioli hanner poblogaeth y wlad ry'n ni'n gobeithio ei harwain.

"Mae yna dal amser - a'r niferoedd - i Lafur Cymru gael yr ymgyrch y mae ei hangen, a'r ddadl y mae Cymru'n ei haeddu. Fe fyddan ni'n cael ein beirniadu - a hynny'n deg - am fod wedi methu petawn ni'n colli'r cyfle yma."

Ni wnaeth Mr Gething gyfeirio'n benodol at ymgyrch Ms Morgan.