Alun Davies i ymgeisio am arweinyddiaeth Llafur Cymru

  • Cyhoeddwyd
Alun Davies

Mae'r Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Alun Davies, wedi cyhoeddi ei fwriad i ymgeisio i arwain Llafur Cymru.

Fe wnaeth AC Blaenau Gwent gyhoeddi ei fwriad i olynu Carwyn Jones yn swyddogol fore Gwener yn Nhredegar.

Mr Davies yw'r pumed aelod i gynnig ei enw.

Ar raglen y Post Cyntaf, dywedodd nad oedd am i'r etholiad fod am bersonoliaethau, ond yn hytrach am "syniadau, a chreu trafodaeth fwy dwfn ac ehangach am ddyfodol nid jyst Llafur Cymru ond Cymru ei hun".

Galwodd am greu "gornest o syniadau", a "gornest sy'n edrych ar bwy fath o Gymru 'dyn ni ishe gweld" yn y dyfodol.

Dywedodd fod angen newidiadau radical a bod y gyfundrefn wleidyddol a democratiaeth yn wynebu argyfwng.

"Dyw datganoli na'r Cynulliad ddim yn ddiogel rhag yr argyfwng rhyngwladol sy'n wynebu gwleidyddiaeth ddemocrataidd yn y Gorllewin," meddai.

"A dwi'n credu fod llywodraethu democrataidd yng Nghymru yn wynebu argyfwng gwirioneddol o ran ymddiriedaeth - un allai arwain hyd yn oed at gwestiynu ei gyfreithlondeb oni bai am gamau i fynd i'r afael â'r sefyllfa."

Cynhadledd arbennig

Mae dau o'r ymgeiswyr eraill eisoes wedi sicrhau digon o enwebiadau i sefyll am yr arweinyddiaeth - yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford, a nawr yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething.

Mae Eluned Morgan a Huw Irranca-Davies hefyd wedi datgan eu bwriad i sefyll yn y ras.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Carwyn Jones yn gadael cyn diwedd y flwyddyn

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sicrhau pump enwebiad i gael sefyll am yr arweinyddiaeth. Mae gan Mr Drakeford 13 ar hyn o bryd.

Pump sydd gan Mr Gething, tra bod Ms Morgan a Mr Irranca-Davies yn dal heb sicrhau enwebiad.

Mae disgwyl y bydd yr enillydd yn dechrau ar ei waith fel prif weinidog ym mis Rhagfyr.