Huw Irranca-Davies eisiau arwain Llafur Cymru

  • Cyhoeddwyd
Huw Irranca-Davies
Disgrifiad o’r llun,

Huw Irranca-Davies yw'r pedwerydd Aelod Cynulliad i fynegi awydd i ymuno â'r ras i ddewis arweinydd nesaf y Blaid Lafur

Huw Irranca-Davies yw'r Aelod Cynulliad diweddara' i ddatgan ei fwriad i ymuno yn y ras i olynu Carwyn Jones fel arweinydd Llafur Cymru.

Mae disgwyl i gynrychiolydd Ogwr yn y Cynulliad Cenedlaethol lansio'i ymgyrch ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ddiweddarach.

Fe yw'r pedwerydd Aelod Cynulliad Llafur i ddatgan yn gyhoeddus eu bod nhw'n awyddus i arwain Llafur Cymru wedi i Carwyn Jones gamu i lawr yn yr hydref.

Huw Irranca-Davies yw Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, a bydd yn cystadlu gyda Mark Drakeford, Eluned Morgan a Vaughan Gething am y cyfle i arwain ei blaid, a bod yn Brif Weinidog Cymru.

'Syniad radical'

Dim ond Mark Drakeford sydd â digon o gefnogaeth ymhlith ACau Llafur ar hyn o bryd i sefyll am yr arweinyddiaeth.

Mae angen cefnogaeth pump aelod o'r grŵp Llafur yn y Cynulliad ar bob ymgeisydd cyn y gallan nhw sefyll.

Hyd yma, mae BBC Cymru'n deall nad yw Mr Irranca-Davies wedi gofyn am gefnogaeth ei gyd aelodau.

Wrth lansio'i ymgyrch, mae disgwyl iddo amlinellu ei weledigaeth ar gyfer ei blaid ac ar gyfer Cymru, er mwyn denu'r gefnogaeth sydd angen arno i sicrhau ei le ar y papur pleidleisio.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Carwyn Jones yn camu o'r neilltu fel prif weinidog cyn diwedd y flwyddyn

"Y rheswm dwi'n sefyll yw bod pobl wedi dangos diddordeb yn fy enwebu ac mae hynny'n dda - fydden i ddim yn ei wneud fel arall," meddai Mr Irranca-Davies ar raglen Good Morning Wales.

Dywedodd fodd bynnag na ddylai ei gyd-aelodau Llafur frysio gormod i enwebu rhagor o ymgeiswyr.

Ychwanegodd fod ei weledigaeth wleidyddol yn cynnwys "gwneud y peth iawn a bod yn barod i fod yn ddewr weithiau, a rhaid dweud, herio'n hunain hefyd".

"Dwi'n gobeithio'r prynhawn yma, pan fyddwn ni'n lansio'n platfform polisi, y byddwn ni'n cyflwyno beth dwi'n meddwl sydd yn syniad eithaf radical i symud yr agenda ymlaen, i gael pobl i feddwl am hyn a'u gwahodd nhw - bydd yn cyffroi pobl," meddai.

"Bydd pobl yn dweud 'dydyn ni heb glywed hynny'n cael ei gyflwyno mewn ffordd mor glir o'r blaen, dyna'r math o syniadau rydyn ni eisiau eu clywed'."