Llywodraeth i gyflwyno canllawiau statudol ar wisg ysgol

  • Cyhoeddwyd
gwisg ysgol

Bydd canllawiau statudol newydd yn cael eu cyflwyno ar wisgoedd ysgol ac ymddangosiad disgyblion.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd ymgynghoriad yn dechrau yn yr hydref, fydd, yn ôl gweinidogion, yn canolbwyntio ar ba mor fforddiadwy yw dillad ysgol.

Ar hyn o bryd, mae gan y llywodraeth ganllawiau ar gyfer cyrff llywodraethol ysgolion, sydd wedyn yn gyfrifol am gyflwyno polisïau ar yr hyn y gall disgyblion ei wisgo.

Does dim rheidrwydd ar ysgolion i gadw at y canllawiau presennol.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams y bydd gwneud y canllawiau'n gyfreithiol yn helpu i ostwng cost gwisg ysgol.

Yn gynharach eleni, daeth i'r amlwg fod y llywodraeth yn dod â grant gwisg ysgol gwerth £700,000 i ben.

Ers hynny, mae gweinidogion wedi cyhoeddi cronfa newydd - Grant Datblygu Disgyblion (PDG-Mynediad) - i helpu gyda chost gwisg ysgol.

Mae'n cynnig £125 ar gyfer prynu gwisg ysgol, offer a chit chwaraeon i blant sy'n cael cinio ysgol am ddim a phlant sy'n cael gofal, wrth iddyn nhw ddechrau yn yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd.

Daeth rheolau gwisg ysgol dan y chwyddwydr yn ystod y tywydd poeth diweddar, pan gafodd rhai penaethiaid eu hannog i lacio'r rheolau ar y dillad y gall disgyblion eu gwisgo.

Lleihau'r gost

Mae gweinidogion eisiau cyflwyno agwedd mwy safonol at wisgoedd ysgol pan fydd y canllawiau statudol newydd yn cael eu cyflwyno'r flwyddyn nesaf.

Dywedodd yr ysgrifennydd addysg, Kirsty Williams, fod cryfhau'r canllawiau yn un ffordd o helpu i leihau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion tlotach a'u cyd-ddisgyblion.

"Mae rhieni a gofalwyr yn wynebu costau gwahanol iawn pan fydd hi'n dod i wisg ysgol, yn ogystal â gweithgareddau oddi fewn i'r ysgol a thu hwnt," dywedodd.

"Mae gwneud canllawiau gwisg ysgol yn stadudol yn un ffordd y gallwn ni leihau'r costau hyn."