Ffrae dros ariannu gwaith uwchraddio Maes Awyr Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
giatiau e-basbortFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd trethdalwyr Cymru nawr yn talu £1m ar gyfer gwella mesurau diogelwch ym Maes Awyr Caerdydd, yn dilyn ffrae wleidyddol ynghylch pwy fyddai'n eu hariannu.

Roedd Llywodraeth San Steffan wedi penderfynu na fydden nhw'n cyllido'r gwaith uwchraddio am nad yw'r maes awyr yn cludo digon o deithwyr.

Yn hytrach, fe fydd Llywodraeth Cymru nawr yn gorfod talu am osod y giatiau e-basbort newydd.

Dywedodd Llywodraeth y DU fod y penderfyniad yn dilyn cynsail sydd wedi'i osod ar gyfer meysydd awyr eraill.

'Anwybyddu'r dadleuon'

Roedd giatiau e-basbort yn arfer bodoli ym Maes Awyr Caerdydd, ond cawson nhw eu tynnu oddi yno gan Luoedd Ffiniau'r DU pan aeth y dechnoleg yn rhy hen.

Y bwriad oedd ceisio cael teithwyr i fynd drwy'r mesurau diogelwch yn gynt, wrth adael i'r rheiny gyda phasbortau mwy newydd i ddefnyddio'r peiriannau i sganio'u hunain drwyddynt.

Cafodd Maes Awyr Caerdydd ei brynu gan Lywodraeth Cymru yn 2013, ac yn gynharach eleni fe wnaethon nhw gyhoeddi buddsoddiad o £6m er mwyn gwella'r adeilad.

Ond er bod y maes awyr yn croesawu dros filiwn o deithwyr y flwyddyn bellach, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi Llywodraeth Cymru Ken Skates nad oedd hynny'n ddigon.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ken Skates fod Lluoedd Ffiniau'r DU yn "gwahaniaethu" yn erbyn meysydd awyr llai

"Nid yw'r maes awyr wedi cyrraedd carreg filltir Llywodraeth y DU o ddwy filiwn o deithwyr, a fyddai'n golygu eu bod yn gymwys am e-glwydi am ddim," meddai.

"Rydym wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ar y mater o e-glwydi nifer o weithiau, gan dynnu sylw at annhegwch rhoi cymhorthdal i feysydd awyr mwy tra'n gwahaniaethu yn erbyn y rhai llai.

"Fodd bynnag mae Lluoedd Ffiniau'r DU wedi anwybyddu'r dadleuon hyn."

Dyw ffiniau a mewnfudo ddim yn feysydd sydd wedi'u datganoli, ac maen nhw'n dod dan gyfrifoldeb Lluoedd Ffiniau'r DU - rhan o'r Swyddfa Gartref.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Mae nifer o ffactorau'n cael eu hystyried wrth benderfynu a ddylai maes awyr gael e-glwydi, gan gynnwys nifer y teithwyr rhyngwladol sy'n cyrraedd.

"Mae'r penderfyniad i beidio ailosod giatiau ym Maes Awyr Caerdydd yn gyson â phenderfyniadau blaenorol gafodd eu gwneud mewn rhannau eraill o'r DU ers 2016/17.

"Rydym yn gweithio gyda Maes Awyr Caerdydd i osod e-glwydi o fis Ionawr y flwyddyn nesaf."