Drakeford: Beirniadu Israel 'ddim yn wrth-Semitaidd'
- Cyhoeddwyd
Mae beirniadu llywodraeth Israel yn "hollol wahanol" i wrth-Semitiaeth, a dylai hawl gwrthwynebwyr i siarad allan gael ei barchu.
Dyna farn Mark Drakeford, Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru sydd hefyd yn ffefryn i olynu Carwyn Jones fel arweinydd nesaf Llafur Cymru.
Ddydd Mawrth fe wnaeth Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol (NEC) y blaid Lafur fabwysiadu diffiniad o wrth-Semitiaeth sy'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol.
Ar yr un pryd fodd bynnag fe ddywedon nhw na fydden nhw'n tanseilio rhyddid i fynegi barn ar Israel.
'Rhyddid i fynegi'
Dywedodd Mr Drakeford fod yn rhaid i'r blaid weithredu yn erbyn achosion o wrth-Semitiaeth yn eu plith.
Ond roedd ei ymateb i benderfyniad yr NEC yn wahanol i un Mr Jones, a ddywedodd bod Llafur wedi bod drwy "ffrae niweidiol y gellir bod wedi ei osgoi".
Mae'r ffrae dros a ddylid derbyn diffiniad Cynghrair Rhyngwladol Coffau'r Holocost (IHRA) o wrth-Semitiaeth ai peidio wedi bod yn rhygnu o fewn y blaid Lafur drwy'r haf.
Yn ôl rhai o gefnogwyr Jeremy Corbyn, fe allai'r cod gyfyngu ar eu rhyddid i feirniadu Israel.
Mewn datganiad dywedodd Mr Drakeford: "Does dim lle i wrth-Semitiaeth yn y blaid Lafur ac mae'n rhaid cymryd camau ble mae esiamplau o wrth-Semitiaeth yn bodoli.
"Mae penderfyniad yr NEC ddoe i fabwysiadu diffiniad llawn yr IHRA yn seiliedig ar y cynnig hwnnw.
"Mae beirniadu llywodraeth Israel yn fater hollol wahanol, ac mae'n rhaid amddiffyn y rhyddid i fynegi'r fath wrthwynebiad.
"Yma yng Nghymru, mae'r Fforwm Cymunedau Ffydd wedi chwarae rôl bwysig ers blynyddoedd wrth fagu dealltwriaeth rhwng yr holl grwpiau ffydd."
Wrth adael cyfarfod yr NEC ddydd Mawrth dywedodd Carwyn Jones: "Wnaethon ni ddim ei gael e'n iawn dros y misoedd diwethaf. Rydyn ni wedi bellach."
Ychwanegodd: "Dwi'n falch ein bod ni wedi mabwysiadu'r diffiniad llawn a'r esiamplau. Fe wnaeth Jeremy arwain y drafodaeth a dwi'n meddwl ein bod ni wedi symud yn ein blaenau'n sylweddol."
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru fabwysiadu diffiniad yr IHRA o wrth-Semitiaeth y llynedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd2 Medi 2018